BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Makefast Ltd

Makefast Ltd

 

Mae Makefast sy'n gweithredu o ddau safle yn y Drenewydd, yn arbenigo mewn cynhyrchu caledwedd morol a diogelwch. Mae eu cwsmeriaid yn cynnwys cwmnïau o'r radd flaenaf megis Sunseeker a Princess Yachts. Gyda 105 aelod o staff, rheolir y busnes gan dîm deinamig amlddisgyblaethol, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch newydd, gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, cynhyrchiant a lles ariannol y sefydliad.

Ar hyn o bryd, mae dros 50% o gynhyrchion y cwmni yn cael eu hallforio gyda thwf cryf ym marchnad yr UDA. Mae Makefast yn parhau i ddatblygu ei weithgareddau yng Ngogledd America trwy ddatblygu ei gynhyrchion morol a mynd i mewn i'r farchnad ddiogelwch.

Pa heriau a phroblemau posibl yr oeddech chi'n eu hwynebu o ganlyniad i ansicrwydd Brexit?

Mae Makefast yn allforio mwy na 50% o'i nwyddau, ac anfonir 25% ohonynt i'r UE. Mae gan y busnes ddosbarthwyr sefydledig yn Ffrainc, yr Almaen a'r Eidal. Byddai unrhyw gostau ychwanegol sy'n deillio o weinyddiaeth ychwanegol, taliadau tollau a threfniadau teithio o ganlyniad i Brexit yn cael effaith ddifrifol ar elw Makefast ac, felly, byddai'n rhaid eu trosglwyddo yn rhannol i'r cwsmer.

Ar ben hynny, mae gan Makefast gadwyn gyflenwi sy'n dibynnu ar ddur gwrthstaen a phlastig crai a fewnforir o'r UE. Er mwyn sicrhau cyflenwad di-dor ar ôl Brexit, byddai’n rhaid i’r busnes stocio gwerth o leiaf tri mis o ddefnyddiau.

Eich rhesymau dros ymgeisio am Grant Cydnerthedd Brexit: pa brosiectau fydd yn elwa o'r grant hwn a sut ydych chi'n credu y byddai'r gronfa yn eich helpu i fynd i'r afael â'r heriau a ddaw yn sgil Brexit?

Gwnaethom adnabod marchnadoedd ychwanegol ar gyfer ein cynnyrch yn yr UDA, gan adeiladu ar gysylltiadau gyda dosbarthwyr presennol a gwybodaeth am gludo nwyddau dramor. Yn ddiweddar, rydym wedi bod i sioe gychod fawr yn yr UDA ac rydym yn bwriadu mynd i ddigwyddiad arall eleni fel rhan o'n hymgyrch farchnata. Fodd bynnag, mae cost yn ystyriaeth fawr ac er mwyn manteisio ar y cyfleoedd hyn, rhaid i ni gynhyrchu cynhyrchion yn fwy effeithlon.

Caniataodd yr arian gan Grant Cydnerthedd Brexit Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru i ni brynu turn tyred dwbl Doosan Puma TT1800SY am £279,000. Mae'r offeryn peiriannol hwn yn ategu'r offer presennol ac yn caniatáu dulliau cynhyrchu mwy effeithlon, gan gynnwys y defnydd o ddefnyddiau, cyflymder cynhyrchu a rhediad heb oruchwyliaeth a heb olau. O ganlyniad, bydd cost cynhyrchu'r cydrannau 25% yn llai. Bydd y fantais gystadleuol hon yn caniatáu i ni gynnig ein cydrannau safonol i farchnadoedd newydd gyda chynnydd mewn trosiant amcangyfrifedig o £100,000 y flwyddyn.

O ganlyniad i'r buddsoddiad, rhagwelir y byddai 20 o swyddi ar lefel cyflog cyfartalog o £20,000 naill ai'n cael eu creu neu eu diogelu dros gyfnod y prosiect.

Unrhyw adborth a all fod gennych ynglŷn â'ch ymgysylltiad â gwasanaeth Busnes Cymru a'r cymorth a gawsoch

Mae'r gwasanaeth a'r wybodaeth a ddarperir gan dîm Busnes Cymru bob amser yn broffesiynol ac yn ddefnyddiol. Maent yn agos-atoch a bob amser yn barod i roi cyngor a rhannu eu gwybodaeth am y diwydiant. (Mike Mills, Cyfarwyddwr Gweithrediadau)

Pa weithgareddau eraill ydych chi'n eu gwneud i baratoi eich busnes ar gyfer ymadawiad y DU o'r UE?

Rydym wedi cysylltu â'n cyflenwyr allweddol i sicrhau cyflenwad di-dor ac ar hyn o bryd rydym yn ail-ymweld â'n codau nwyddau er mwyn deall y taliadau tariff a allai godi o ganlyniad i Brexit heb gytundeb.

Cyfranogiad Busnes Cymru

Mae Makefast wedi cael perthynas barhaus â Busnes Cymru ac mae'r Rheolwr Perthynas Rowan Jones wedi darparu cymorth busnes i'r cwmni ac wedi cynghori ar eu cynlluniau twf. Mae ef wedi eu helpu gyda’r ceisiadau llwyddiannus am grant o'r Gronfa Twf a Ffyniant (£12,860) yn ogystal â Grant Cydnerthedd Brexit gwerth £100,000.

Mae Mike a’r tîm hefyd wedi cael cefnogaeth gan yr Ymgynghorydd Cynaliadwyedd David Walker, sydd wedi eu helpu i fabwysiadu polisi amgylcheddol yn ogystal ag ystod o fesurau arbed ynni ac effeithlonrwydd adnoddau.

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.