BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Medina

Bwyty sydd wedi’i ysbrydoli gan Ottolenghi ac wedi’i leoli yng nghanol tref Aberystwyth yw Medina, ac mae’n cynhyrchu bwyd organig, ffres bob dydd. Sefydlodd y perchennog, Medina Rees, y bwyty yn 2015 ac ers hynny mae wedi ehangu i adeilad mwy gyda siop fewnol yn gwerthu bwyd organig a bara, gan ddarparu amgylchedd croesawgar gyda’r ethos ar fwyd ffres.

Does dim bwyty arall tebyg i Medina yn Aberystwyth ac mae hyn, ynghyd â’i brydau maethlon, ffres a staff croesawgar, yn golygu bod y busnes wir wedi bwrw ei wreiddiau yn y gymuned leol. Nid y cwsmeriaid yn unig sy’n caru Medina, mae’r staff hefyd yn ei barchu gan iddo fabwysiadu arferion Gwaith Teg. Er mai dim ond yn ddiweddar y mae Medina wedi cychwyn ar ei thaith fel cyflogwr Gwaith Teg, fel nifer o fusnesau eraill, mae ganddi nifer o’r conglfeini mewn lle eisoes i sicrhau bod ei staff yn cael eu cefnogi a’u meithrin.

Gwobrwyo teg

Fel busnes lletygarwch mae’r bwyty’n dibynnu llawer ar ei staff, felly mae Medina wedi sicrhau ei bod yn talu cyflog teg i’r holl gyflogeion ers y dechrau. Mae’n esbonio:

Mae o i gyd i’w wneud â’ch profiad a’ch gallu ar gyfer y swydd, nid eich rhywedd na’ch oedran. Yn y pen draw, rydyn ni’n fusnes sy’n methu gweithio heb dîm da, mae’r cyfan am y bobl, alla i ddim gwneud popeth fy hun, felly mae gofalu am y bobl o’ch cwmpas chi’n bwysig iawn.”

Mae’r busnes yn cyflogi 40 aelod o staff ar hyn o bryd ac yn gweithio tuag at ddarparu Cyflogau Byw Gwirioneddol. Gall y cydbwysedd rhwng marchnadoedd cystadleuol, gorbenion cynyddol a pharhau i fod yn gynaliadwy fod yn anodd ym myd lletygarwch, ond un o’r ffyrdd y mae’r busnes yn cadw’r staff yn frwdfrydig ac yn helpu gyda datblygiad ei gyflogeion yw drwy roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y costau cynyddol sy’n gysylltiedig â’r busnes. Medina sy’n ymhelaethu:

Er enghraifft, fe gawson ni focs o frocoli un diwrnod am £14 ond drannoeth roedd yn £22. Mae’n bwysig cynnwys staff yn heriau’r busnes gan eu hegluro iddyn nhw, yn ogystal â rhoi sylw i’w datblygiad personol, gan fod y rhain yn wersi y gallan nhw fynd gyda nhw, i’w busnes eu hunain o bosibl un diwrnod!

Llais y cyflogai a chydgynrychiolaeth 

Cynhelir cyfarfodydd chwarterol gyda’r holl dîm ym Medina a dyma ble mae newidiadau’n cael eu trafod fel arfer, newidiadau fel cyflwyno bwydlen dymhorol newydd a chasglu gwybodaeth am gryfderau a gwendidau pob adran o’r busnes.

Er bod yna lawer i’w drafod yn y cyfarfodydd hyn fel arfer, mae Medina bob amser yn sicrhau bod staff yn cael eu gwobrwyo gyda rhywfaint o hwyl hefyd:

Rydyn ni’n dueddol o gau am y prynhawn neu agor yn hwyrach i gwblhau hyfforddiant neu fe fyddwn ni’n blasu’r fwydlen gyda’n gilydd, sy’n rhoi’r cyfle i bawb gyfrannu mewn amgylchedd anffurfiol. Mae’n rhoi’r cyfle i ni i gyd ddysgu a sgwrsio dros fwyd a diod hyfryd.

Mae staff yn defnyddio WhatsApp hefyd, ar gyfer y timau bach ac ehangach, felly mae yna sianeli cyfathrebu ar agor rhwng pawb bob amser, sy’n ddefnyddiol ym myd cyflym lletygarwch. Er enghraifft, os yw rhywun yn sâl bydd aelod arall o’r tîm yn cymryd shifft ychwanegol yn gyflym, felly mae yna lawer o gyfle i lais y cyflogai gael ei glywed, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

Cyfle i gael mynediad at waith, i dyfu ac i gamu ymlaen

Mae pob cyflogai yn y bwyty yn derbyn hyfforddiant Lefel 2 mewn hylendid bwyd, alergenau a labelu bwyd fel mater o drefn safonol wrth iddyn nhw ymuno â’r busnes. Mae pob cyflogai’n gallu cael hyfforddiant ychwanegol os yw hynny’n ei helpu i gamu ymlaen yn ei swydd gyfredol neu yn ei gefnogi i symud i faes arall o’r busnes, ac mae’r cwmni’n talu am hyn yn llawn bob tro. Medina sy’n ymhelaethu:

Mae gennym ni lawer o staff sydd wedi newid rolau yn y cwmni, er enghraifft, mae Cari sydd wedi bod gyda ni ers 2016 wedi camu ymlaen sawl tro dros y blynyddoedd ac mae hi newydd symud o flaen y tŷ i’r becws.

Gyda’r hyblygrwydd hwn, mae staff yn gallu datblygu a symud i feysydd o’r busnes sydd o ddiddordeb iddyn nhw, ac mae hyn hefyd yn helpu i gadw staff yn yr hirdymor gan fod aelodau’r tîm yn datblygu i fod yn uwch arweinwyr tîm yn fuan iawn gyda hyfforddiant ychwanegol.

Mae aelodau newydd o’r tîm yn cael eu paru â mentor wrth iddyn nhw gyrraedd y busnes, sy’n sicrhau bod ganddyn nhw rywun wrth law drwy’r amser i’w helpu i setlo a thyfu yn eu swydd newydd.

Sicrwydd a hyblygrwydd

Mae’r holl staff yn cael eu cyflogi ar gontractau parhaol ym Medina. Yn wahanol i rai busnesau lletygarwch, dydy Medina ddim yn cynnig shifftiau a rennir. Medina sy’n esbonio:

Dwi ddim yn cynnig shifftiau a rennir. Mae’n rhywbeth hanesyddol yn ein diwydiant, er mwyn defnyddio pobl ar adegau prysuraf y dydd ac yna cael gwared arnyn nhw yn ystod y cyfnodau tawel, ond nid dyna’n ffordd ni yma.

Fel busnes lletygarwch, dydy gweithio’n hybrid ddim bob amser yn bosib i holl aelodau’r staff, ond ym Medina, rydyn ni’n gwarantu hyblygrwydd a sicrwydd o ran isafswm oriau, rota sydd wedi’i chyfathrebu’n dda sy’n cael ei rhoi i staff ymhell ymlaen llaw neu cyn gynted â phosib gan ganiatáu lle i addasiadau os oes angen.

Er hwylustod a hygyrchedd, mae Medina’n defnyddio ap Bright HR i ddigideiddio a moderneiddio prosesau hyblygrwydd staff. Yn yr ap hwn, gall staff weld y calendrau gwyliau blynyddol, wneud cais am amser i ffwrdd a darllen y llawlyfr staff. Yn ogystal â’r llawlyfr, mae’r holl staff yn mynd trwy broses sefydlu sy’n cynnwys cyflwyniad i’r tîm a’u rolau, i’w cyfrifoldebau eu hunain, iechyd a diogelwch, hylendid bwyd, adrodd am salwch a pholisïau’r cwmni.

Mae Medina yn cymryd diogelwch a hyblygrwydd ei staff o ddifri:

Mae trefnu shifftiau rhywun bob wythnos yn golygu bod gen i lawer o bŵer dros fywyd rhywun. Felly, mae’n bwysig meddwl am eu bywydau. Rhoi patrymau shifftiau braf yw un o’r pethau y gallwn ni eu cynnig i’n cyflogeion yn y diwydiant hwn.

Amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol 

Mae’r bwyty’n sicrhau ei fod yn recriwtio amrywiaeth o ran oedran, ethnigrwydd ac o ran unigolion niwrowahanol i’r tîm. Mae’r cydbwysedd iach rhwng y rhywiau wedi cyfrannu at greadigrwydd a chynwysoldeb yn niwylliant y busnes. Dywed Medina:

Mae lletygarwch yn denu pob math o bobl ac mae cael gweithlu amrywiol yn dod â llawer o werth i’r busnes gan fod gennych chi fynediad at wahanol safbwyntiau, yn enwedig o ran datblygiad a llais y cyflogai.

Yn ogystal â sicrhau cynhwysiant ar bob lefel o’r busnes, mae gan Medina brosesau i sicrhau bod unrhyw broblemau yn cael sylw ar y lefel isaf bosibl i’w hatal rhag gwaethygu ac mae hyn wedi arwain at drosiant staff isel gyda llawer wedi bod yn gweithio yn y bwyty am sawl blwyddyn. Mae yna swyddog cysywllt iechyd a diogelwch penodol hefyd yn ogystal â rheolaeth a chyfrifoldeb clir o ran swyddogaethau Adnoddau Dynol yn y busnes.

Parchu hawliau cyfreithiol

Mae’r bwyty yn rhoi llawer o ystyriaeth i gadwyni cyflenwi moesegol ac yn defnyddio cynnyrch organig, lleol lle bo’n bosibl, sy’n cynnwys llysiau, blawd a llaeth organig lleol o Dalybont sy’n cael ei gyflenwi mewn poteli gwydr y gellir eu hailddefnyddio.

Mae’r busnes hefyd yn ailgylchu’r holl wastraff a deunyddiau perthnasol drwy rannu gwastraff yn fwyd, gwydr, papur/cerdyn a phlastigion ac mae holl ddeunydd pacio gwasanaeth tecawê Medina yn fioddiraddadwy hefyd.

Mae Medina wastad wedi ceisio cydymffurfio â’r holl hawliau statudol ac mae’n edrych ar sut y gall y busnes gefnogi staff ar bob lefel. Mae hyn, ynghyd ag isafswm oriau sicr a dim shifftiau a rennir, yn helpu cyflogeion i gynnal cydbwysedd iach rhwng eu bywyd a’u gwaith ac yn y pen draw yn golygu eu bod yn hapus, yn gynhyrchiol ac yn llwyddiannus yn y gwaith.

Manteision bod yn gyflogwr gwaith teg

Mae mabwysiadu arferion Gwaith Teg wedi dod â manteision sylweddol i Medina, ei staff a’i bwyty. Drwy beidio â gwahaniaethu yn erbyn oedran neu rywedd mewn perthynas â chyflog, mae lefelau cadw staff Medina yn uchel ac ynghyd â’r mynediad at gyfleoedd hyfforddi a chamu ymlaen, mae staff yn gallu tyfu gyda’r busnes a chanfod sylfaen gadarn fel aelodau gwerthfawr o’r tîm.

Mae’r gefnogaeth a’r arweiniad y mae pob cyflogai’n eu derbyn hefyd yn helpu gyda chyfraddau cadw ac wedi creu tîm cynhwysol ac amrywiol sy’n adlewyrchu’r gymuned leol, gan wneud Medina yn lle croesawgar iawn lle mae lleisiau pawb yn cael eu clywed.

Edrych tua'r dyfodol

O ganlyniad i’r manteision hyn, mae Medina wedi gallu ehangu gyda safle gwerthu arall a thyfu ei busnes.

Medina sy’n esbonio:

Rydyn ni wedi dod yn gyfrifol am y Diner ar Brom Aberystwyth ac er mai’r un busnes fydd hwn mae gennym ni lawer i’w ddysgu gan fod ganddo set o heriau cwbl wahanol. Ond fe fyddwn yn dal i arddel yr un egwyddorion Gwaith Teg, er yn cynnig rhywbeth gwahanol!

Wrth iddi edrych tua’r dyfodol, mae Medina’n gobeithio y bydd yr ehangu diweddar yn ei galluogi i lywio’r cydbwysedd rhwng cynnig Cyflog Byw gwirioneddol i’w staff a gallu fforddio’r costau cynyddol o redeg sawl busnes. Wrth iddi barhau â’i thaith Gwaith Teg, mae Medina hefyd yn bwriadu cofnodi’r egwyddorion yn fwy trylwyr gyda chymorth cynghorydd Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.