BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Meithrinfa Dydd y Dyfodol Cyf

Y Dyfodol Cyf Day Nursery

Meithrinfa dydd yn mynd o nerth i nerth mewn ardal wledig yng nghanolbarth Cymru gyda chymorth Busnes Cymru.

Yn gwireddu breuddwyd gydol oes a gyda chyfoeth o brofiad yn y sector gofal plant, sefydlodd Dwynwen Davies ei meithrinfa dydd ei hun yng Nghellan, Llanbedr Pont Steffan, yn darparu gofal dydd, clwb ar ôl ysgol a gofal gwyliau. Cafodd Dwynwen gymorth dechrau busnes a chynaliadwyedd gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, gan ei galluogi i ddechrau Y Dyfodol yn llwyddiannus yn 2016.

  • lansiad llwyddiannus
  • polisi cynaliadwyedd
  • wedi creu 10 swydd

Cyflwyniad i fusnes

Mae Y Dyfodol yn feithrinfa dydd cyfrwng Cymraeg, wedi ei sefydlu yn 2016 gan Dwynwen Davies yng Nghellan, Llanbedr Pont Steffan, gan roi 'cartref oddi cartref' hwyliog a chroesawgar i blant.

Gyda staff medrus ac arbenigol, mae'r feithrinfa yn gofalu am blant o oed geni i 12 mlwydd oed, ac yn cynnig cyfleusterau a gwasanaethau meithrinfa dydd, clwb ar ôl ysgol a chynllun chwarae gwyliau.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Rwyf wastad wedi bod eisiau bod yn berchen ar fy meithrinfa fy hun. Rwyf wedi gweithio yn y sector gofal plant ers imi fod yn ifanc iawn ac wedi gwneud yn siŵr fy mod wedi astudio'n galed wrth weithio er mwyn sicrhau fy mod â'r sgiliau a'r wybodaeth ddiweddaraf. Rwyf wedi derbyn achrediad, Diploma CLD NVQ mewn Addysg a Datblygiad Plant, a bron i 20 o flynyddoedd wedyn, rwyf ar ganol cwblhau Diploma Rheoli NVQ5 gyda Choleg Sir Gâr. Rwyf wedi dilyn Diploma Rheoli LEAD Cymru a oedd yn gyfle amhrisiadwy.

Prynais yr hen adeilad ysgol yng Nghellan yn 2016, ac es ati i'w adnewyddu'n llwyr, gyda'r bwriad o agor cyfleuster meithrinfa dydd ar gyfer plant, clwb ar ôl ysgol a chynllun chwarae gwyliau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae darpariaeth gofal plant o safon uchel mewn ardal wledig o Gymru yn bwysig iawn i mi, ac rwyf wir yn byw fy mreuddwyd gydag Y Dyfodol. Mae'r busnes yn cyflogi 10 person, pob un yn fenyw, ac mae gennym bolisi iaith Gymraeg llym. Rwyf yn hynod o falch o'n tîm - mae pob aelod o'n staff yn siaradwyr Cymraeg, yn lleol i Geredigion a Sir Gâr ac yn gymwys iawn mewn gofal plant, diogelu, cymorth cyntaf a diogelwch bwyd a hylendid.

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd Dwynwen â Busnes Cymru i geisio cyngor dechrau gyda'i menter meithrinfa dydd, ac wedi hynny, ei thwf. Roedd cefnogaeth Rheoli Cysylltiadau drwy gyfrwng y Gymraeg yn fuddiol iddi o safbwynt holl faterion sydd ynghlwm â dechrau a rhedeg busnes.

Roedd Gareth Davies, Ymgynghorydd Cynaliadwyedd arbenigol, hefyd yn ei chynghori ynghylch rheoli gwastraff, gostyngiadau costau gwres a chydymffurfiaeth gyfreithiol, gan alluogi Y Dyfodol i feithrin polisi cynaliadwyedd a gyrru am welliant parhaus yn y busnes.

Canlyniadau

  • lansiad llwyddiannus
  • polisi cynaliadwyedd
  • wedi creu 10 swydd

Rydym wedi derbyn cymorth gan ein Rheolwr Cysylltiadau, Geraint Williams o Busnes Cymru, sydd wedi ein helpu i sefydlu ein cyfleuster fel busnes CIC. Mae hyn wedi ein galluogi i geisio cyllid a chael mynediad at gymorth pellach i gynorthwyo â datblygiad a thwf y feithrinfa.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Yn 2017, dechreuom Dyfodol Disglair ar lawr uchaf y feithrinfa: mae'n gyfleuster hyfforddi yn arbenigo mewn hyfforddi pobl leol yn ogystal â'n gweithlu ein hun. Roedd yr ardal hon yn eithaf gwag yn ystod y tymor oherwydd dyma ble rydym yn cynnal ein cynllun chwarae gwyliau, felly roedd yn gyfle gwych i wella hyfforddiant a datblygu'r busnes. Mae Coleg Sir Gâr yn gosod cyfleusterau Dyfodol Disglair wrth hyfforddi dros 20 o bobl o bell ac agos. Mae 17 o fyfyrwyr wedi cael eu hachredu gyda CCLD a Playworker ar Ddiploma Lefel 3, sy'n drosiant ardderchog: mae nifer wedi mynd ymlaen i gael eu cyflogi'n lleol, felly mae'r effaith economaidd ar eu teuluoedd a'n economi leol yn hollgynhwysol.

Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu mwy o elfennau'r busnes yn y dyfodol agos.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.