BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Meithrinfa Ysgubor Fach Nursery

Meithrinfa Ysgubor Fach Nursery

Meithrinfa yng Nghaerfyrddin yn sicrhau £1,000 gan Grant Gofal Plant Busnes Cymru.

Wedi'i lleoli yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, mae Meithrinfa Ysgubor Fach Nursery  yn cynnig gwasanaethau gofal plant i fabanod, plant bach a phlant ysgol hyd at 12 oed. Gwnaeth y perchennog, Eleri Thomas, gais am Grant Gofal Plant Llywodraeth Cymru sydd wedi'i chaniatáu i:

  • sicrhau £1,000 o arian grant
  • creu lleoedd gofal plant newydd, gan gynnwys lleoedd i blant sydd ag anghenion arbennig
  • datblygu cyfleusterau newydd i blant anabl a phlant sydd ag anghenion arbennig

Cyflwyniad i'r busnes

Wedi'i sefydlu gan Eleri a Robert Thomas, mae Meithrinfa Ysgubor Fach Nursery yn feithrinfa fawr, lachar, ddwyieithog, sy'n cynnig amgylchedd hapus, ysgogol, lle mae'r staff gofalgar ac ymroddedig yn annog pob plentyn i gyflawni ei botensial a datblygu mewn 'cartref oddi cartref'.

Y feithrinfa hon oedd breuddwyd oes Eleri, a bu iddi ei gwireddu yn 2014. Mae'r busnes teuluol hwn wedi'i leoli ar dir hen Fferm Pontcowin ac mae'n cynnig gwasanaethau gofal dydd a chyfleusterau sydd wedi'u datblygu a'u dylunio ar gyfer plant, o fabanod ychydig wythnosau oed i blant ysgol 12 oed. Gyda diolch i brofiad blaenorol Eleri, mae'r feithrinfa hefyd yn gwasanaethu ar gyfer plant anabl a phlant sydd ag anghenion arbennig.

Pam ymgeisioch chi am grant Gofal Plant Busnes Cymru?

"Gwnaethom gais am y grant oherwydd bod angen rhagor o gyllid arnom i newid llawr uchaf y feithrinfa yn ystafell synhwyrau a fyddai'n ein caniatáu ni i greu lleoedd ychwanegol i blant sydd ag anghenion arbennig. Byddai'r prosiect yn costio £1,600, nad oeddem yn gallu ei fforddio ar ein pen ein hunain gan fod costau eraill bob tro yn ein rhwystro."

Sut mae'r grant wedi'ch helpu?

"Mae'r grant gofal plant wedi ein helpu ni'n enfawr. Rydym wedi'i fuddsoddi i greu ystafell synhwyrau sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'n busnes.

Mae wedi bod yn werthfawr dros ben wrth ofalu am blant sydd ag anghenion arbennig, gan gynnwys plant sydd â ffurfiau difrifol ar awtistiaeth, gan ei fod yn cynnig amgylchedd ysgogol a hamddenol. Heb y grant, ni fyddem wedi gallu cyflawni hyn a chreu'r lleoedd ychwanegol.

Mae'r cyllid hefyd wedi ein caniatáu ni i dyfu ein busnes gan ei fod wedi helpu gyda'n gweithgareddau marchnata a rhoi sicrwydd i rieni bod gennym y cyfleusterau arbenigol hanfodol i warchod eu plant. Yn ogystal, mae'r gymuned ehangach wedi dangos diddordeb mewn defnyddio ein hystafell synhwyrau fel man cyfarfod i famau a'u plant anabl."

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

"Rydym bob amser yn edrych am gyfleoedd i dyfu a darparu cyfleusterau gwell yn ogystal â gwasanaeth cynhwysol i bob plentyn. Rydym nawr yn ymchwilio i brynu beiciau a choetsys arbenigol i blant sydd ag anghenion arbennig, a fyddai'n eu caniatáu nhw i fynd ar deithiau cerdded hirach. Yn ogystal, rydym yn archwilio'r posibilrwydd o droi ein hardal awyr agored yn ardd synhwyraidd er mwyn i bob plentyn allu mwynhau profiad ysgogol, difyr yn yr awyr iach."

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.