BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Multi-Heat Services Cyf

Multi-Heat Services Ltd

Gwelliannau amgylcheddol o bwys i arbenigwr systemau gwresogi, diolch i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru.

Mae Multi-Heat Services Cyf yn cynnig amrywiaeth o atebion gwresogi i’r sectorau gwresogi domestig a masnachol. Gyda nifer o’r gweithwyr yn mynychu gweminarau a gyflwynir gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, ymrwymodd y busnes i’r Addewid Twf Gwyrdd ac ers hynny mae wedi rhoi amrywiaeth o fesurau ar waith i leihau neu wella’i effaith amgylcheddol, yn ogystal â gostwng ei gostau’n fawr.

Cyflwyniad i’r busnes

Ac yntau’n fusnes a chanddo flynyddoedd lawer o brofiad yn y sectorau diwydiannol, masnachol a domestig, mae Multi-Heat Services Cyf a leolir ym Mhontypridd yn arbenigo ar ddarparu a gwasanaethu systemau gwresogi adnewyddadwy, dŵr poeth, stêm a nwy naturiol.

Ar wahân i ddarparu amrywiaeth eang o gynhyrchion, yn cynnwys systemau gwres rheiddiol, aer cynnes a dŵr poeth pwysedd isel, mae’r busnes hefyd yn cynnig gwasanaeth trwsio a chynnal a chadw ledled y wlad.

Pam mae cynaliadwyedd yn bwysig i chi a’ch busnes?

Mae cynaliadwyedd yn bwysig i Multi-Heat Services Cyf, pa un a yw’n golygu olrhain a lleihau ein hôl troed carbon, neu osod cynhyrchion cost-effeithlon ac ynni-effeithlon.

Gan fod ein cwsmeriaid wedi’u lleoli trwy’r DU i gyd, rydym wedi cynyddu ein fflyd o gerbydau trydan, ac mae hyn yn ein galluogi i leihau llygredd aer, yn enwedig wrth deithio ymhell ac yng nghanol trefi prysur.

Mae gennym berthynas dda gyda’n cyflenwyr ac rydym bob amser yn gallu cael gafael ar y cynhyrchion mwyaf cost-effeithiol. Hefyd, rydym yn cymryd rhan mewn hyfforddiant yn ymwneud â chynhyrchion, ac felly cawn wybodaeth fanwl am y pethau sydd ar gael ar y farchnad. Mae hyn yn ein galluogi i roi’r wybodaeth orau i’n cwsmeriaid ynglŷn â’r cynhyrchion mwyaf ynni-effeithlon a thanwydd-effeithlon, fel y gallant hwythau hefyd wastraffu llai o ynni a gwella’u heffeithlonrwydd.

Cymorth Busnes Cymru

Mynychodd Cathryn Stinton, Gweinyddwr Swyddfa, weithdy ‘Hanfodion Adnoddau Dynol a Chynaliadwyedd’ Busnes Cymru, yn ogystal â gweminar tendro ym mis Medi 2020. Cafodd ei chyflwyno gan y Cynghorydd Cynaliadwyedd, Paul Carroll, i’r Addewid Twf Gwyrdd, ac ers hynny mae wedi cynorthwyo Multi-Heat Services i wneud cynnydd sylweddol ar ei addewid, yn cynnwys:

  • Addysgu’r gweithwyr ynghylch targedau rheoli amgylcheddol.
  • Cyflwyno mesurau arbed ynni, yn cynnwys diweddaru’r goleuadau yn ogystal â chofnodi a rheoli faint o ynni a ddefnyddir yn y swyddfa.
  • Newid cerbydau’r fflyd am geir trydan.
  • Lleihau gwastraff trwy gael prosesau ailgylchu gwell ac ailddefnyddio papur.
  • Lleihau ôl troed carbon y busnes trwy fonitro faint o danwydd a ddefnyddir gan gerbydau a mynd i’r afael â hyn.
  • Gofalu am lesiant ac iechyd meddwl y gweithwyr.

Mae nifer o’n staff wedi defnyddio cyrsiau rhad ac am ddim Busnes Cymru i wella ein gwybodaeth am wahanol agweddau ar fusnes, yn cynnwys tendro a defnyddio ein gwefan yn effeithiol. Yn un o’r gweminarau tendro clywsom am yr Addewid Twf Gwyrdd, ac fe wnaeth hyn ein hannog i ystyried sut y gallwn wella’r effaith a gawn ar ein gweithwyr, ein cwsmeriaid a’r lleoedd o’n cwmpas.

Rydym ar gychwyn ail flwyddyn ein cynllun, ac yn ogystal â gweld bod y cwsmeriaid yn elwa ar gynhyrchion gwell gallwn weld hefyd fod y swyddfa a’r cwmni i gyd yn elwa trwy wastraffu llai o bapur ac ynni, yn ogystal â gwella ein heffeithlonrwydd amser. Mae Paul ein cynghorydd wedi ein helpu trwy’r addewid, ac mae ef wrth law os teimlaf ein bod angen help ychwanegol i gyflawni targedau neu sicrhau cynnydd.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Mae ein cynlluniau’n cynnwys dilyn ein Haddewid Twf Gwyrdd a datblygu ein hymrwymiad fel cwmni. Hefyd, rydym eisiau cael achrediad gan safonau fel y Ddraig Werdd a SQMAS.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.