BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Mynydd Sleddog Adventures Ltd

Sefydlodd Jolene Swiffen Mynydd Sleddog Adventures yng Nghonwy, gogledd Cymru, er mwyn cynnig reidiau hysgi ac anturiaethau cŵn sled. Derbyniodd Jolene gymorth a chyngor gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, gan ei galluogi i ddechrau'r busnes ym mis Rhagfyr 2019.

Cyflwyniad

Wedi'i lansio gan Jolene Swiffen ym mis Rhagfyr 2019, Mynydd Sleddog Adventures yw atyniad awyr agored cyntaf a'r unig un sydd gan Gymru, yn cynnig reidiau hysgi ac anturiaethau cŵn sled ar gyfer pobl o bob oed.

Wedi'i sefydlu o fewn llwybrau coedwig hardd Bwlch Hafod Einion, mae gan y busnes ei dîm ei hun o 16 o gŵn sled rasio.

Pam wnaethoch chi benderfynu cychwyn eich busnes eich hun?

O oedran ifanc, roedd gen i angerdd tuag anifeiliaid, natur, yr awyr agored, mynyddoedd, eira ac antur. Y cwbl oeddwn i eisiau erioed oedd gweithio yn yr awyr agored gyda chŵn neu geffylau, ond oherwydd fy sefyllfa gartref, nid oedd hyn yn opsiwn pan adewais yr ysgol yn 16 oed.

O fewn fy ngyrfa broffesiynol, gweithiais yn y sector cyhoeddus am nifer o flynyddoedd. Dechreuais yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn gweithio gyda phobl ifanc a oedd yn cael trafferth ymgysylltu ag addysg ac yn ddiweddarach arbenigais mewn gweithio gyda throseddwyr, gan eu cefnogi i gamu i fyd addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Cymhwysais fel Ymarferydd Arweiniad Gyrfa a'm swydd ddiwethaf oedd gweithio gyda darparwr tai yn y Gogledd Orllewin yn sefydlu a rheoli prosiectau a rhaglenni cyflogadwyedd ar gyfer preswylwyr, cymunedau a phobl ifanc a oedd wedi cael trafferth gydag addysg. Mae fy ngyrfa wedi bod yn heriol, ond yn wobrwyol iawn.

Dechreuodd fy ngyrfa cŵn sled yn 2001 ac mae fy nghŵn wedi bod yn ddiddordeb ac yn sbardun i mi ers hynny. Cefais fy syniad busnes tua 2009, ar ôl llawer o ymchwil i ryngweithiadau dynol a chŵn ac ar ôl gweld sut mae'r berthynas rhyngddynt yn gwella bywydau, codi lefelau ymgysylltiad a gwella dyheadau, cynyddu hyder a gwella lles meddyliol. Yn anffodus, nid 2009 oedd y flwyddyn i mi fod yn sefydlu busnes, felly cadwais y syniad nes bod yr amser yn iawn.

Yn 2019, symudom i ogledd Cymru. Roeddem yn arbennig o awyddus i gael safle a fyddai'n ein galluogi i hyfforddi'r cŵn ar ein tir ein hunain yn ogystal ag ar ein tir hyfforddi arferol (sef Coedwig Alwen).

Dechreuais ailfeddwl am fy ngyrfa a meddwl tybed ai dyma'r amser iawn i ailedrych ar fy syniad busnes gwreiddiol. Ar ôl trafodaethau hir gyda fy ngŵr, yn ystyried ffigurau a newidiadau i'n ffordd o fyw, penderfynais roi'r gorau i'm swydd ym mis Ionawr 2019 a dechreuais ar daith hollol newydd. Sefydlais fusnes fy mreuddwydion – canolfan antur cŵn sled sy'n cynnig cyfle i bobl o bob oed gwrdd â chŵn sled, rhyngweithio â nhw a phrofi cyffro'r gamp cŵn sled, yma yng ngogledd Cymru.

Pa heriau a wyneboch?

Mae'r heriau wedi bod yn enfawr. Mae ffrindiau a gwylwyr yn dweud: "rwyt yn byw'r freuddwyd" ac ydy, mae'n ymddangos felly, ond mae "byw'r freuddwyd" yn waith hynod galed sy'n mynnu agwedd benderfynol a dycnwch! Nid wyf erioed wedi teimlo mor flinedig yn gorfforol nac yn feddyliol o'r blaen. Ar adegau, pan fydd y byd yn ymddangos fel ei fod yn eich erbyn, gall fod yn anodd cynnal cymhelliant a pharhau i ganolbwyntio ar eich nod.

Mae cyllid yn her sylweddol hefyd. Roedd yn amlwg bod fy ngŵr a minnau'n twyllo ein hunain, yn meddwl y gallem greu llwyddiant o'r busnes o fewn 3 mis! Cytunodd i'm cefnogi gyda chynilion, yn ogystal â gweithio'n rhan-amser i'w gwmni. Trodd 3 mis yn 6 mis ac yna bron yn 12 – ac roedd fy musnes yn dal yn ei gyfnod cynharaf a'r cynilion yn crebachu.

Roedd heriau eraill i'w goresgyn, gan gynnwys fy nghais cynllunio, a achosodd lawer iawn o straen. Oedodd y pandemig Covid-19 ddatblygiad pethau hyd yn oed ymhellach.

Cymorth Busnes Cymru

Yn ffodus, mae Busnes Cymru wedi bod yn gymorth enfawr drwy gydol yr amser ac mae'n rhaid i mi ddiolch iddynt am yr holl gymorth a gefais. Mae fy nghynghorydd busnes, Sian E Jones, wastad wedi bod yn gefnogol o'm syniad busnes. Fe'm cynorthwyodd gyda fy nghynllun busnes a'm rhagolygon llif arian. Roedd Sian bob amser ar ben y ffôn yn barod i wrando os oeddwn angen trafod syniadau neu gael rhefru am rywbeth nad oedd yn gweithio fel yr oeddwn wedi'i ddisgwyl.

Fe'm cyfeiriwyd hefyd drwy gyfrwng Busnes Cymru at fentor busnes, sydd wedi profi'n amhrisiadwy! Byddai fy mentor, Morag Davies, a minnau yn cyfarfod unwaith y mis er mwyn trafod syniadau a phrosesau, trafod fy nghynllun busnes, llif arian, cais cynllunio a thrafod sut i oresgyn heriau. Mae hi wedi bod o gymorth mawr ac yn hwb i'm cymhelliant.

Gwnaeth hi hyd yn oed fy rhoi mewn cysylltiad â pherchennog busnes lleol arall, a oedd wedi wynebu heriau tebyg i mi, am ychydig o gefnogaeth i'm cymell. Unwaith eto, mae hyn wedi profi'n amhrisiadwy.

Awgrymodd Sian hefyd fy mod yn mynychu gweithdai Busnes Cymru, gan gynnwys gweithdai Brandio a Marchnata, Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol ac Optimeiddio Peiriannau Chwilio. Mae'r gweithdai wedi bod yn wych, rwyf wedi dysgu cymaint, wedi datblygu fy mrand ac wedi mireinio'r cynnyrch rwy'n ei gynnig. Rwyf hefyd wedi cwrdd â phobl newydd ryfeddol drwy rwydweithio ag eraill ar y cyrsiau; mae hyn ynddo'i hun nid yn unig wedi rhoi hwb i'm hyder, ond hefyd wedi fy ngalluogi i integreiddio â'm cymuned leol.

Mae Busnes Cymru hefyd wedi fy nghynorthwyo gyda chais am fenthyciad dechrau busnes llwyddiannus, sydd wedi fy ngalluogi i ariannu gwefan broffesiynol newydd, cynnal sioeau hyrwyddo a chael gafael ar offer angenrheidiol.

Dechreuodd Mynydd Sleddog Adventures Ltd fasnachu ym mis Rhagfyr 2019. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig Covid-19, roedd yn rhaid cau drysau am y tro. Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd a phryderus, ond mae Sian wedi bod wrth law gyda chefnogaeth a gwybodaeth drwy gydol y cyfnod. Mae Busnes Cymru wedi darparu diweddariadau rheolaidd gan Lywodraeth Cymru ynghylch y cymorth sydd ar gael i fusnesau sy'n dechrau.

Canlyniadau

  • cafwyd cychwyn llwyddiannus
  • crëwyd 1 swydd newydd
  • sicrhawyd buddsoddiad benthyciad dechrau busnes gwerth £10,000

Ni allaf ddiolch digon i Busnes Cymru am bopeth. Mae'r gefnogaeth a'r anogaeth rwyf wedi eu derbyn heb eu hail! Yn sicr, byddwn yn argymell gwasanaeth Busnes Cymru i fusnesau newydd eraill.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Cyn gynted ag y bydd y cyfyngiadau clo yn cael eu llacio, byddaf yn mynd amdani er mwyn hyrwyddo a marchnata fy musnes yn y gobaith y gallaf ei godi unwaith eto. Byddaf yn parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, a fu cystal â rhoi caniatâd i mi weithredu fy musnes o Goedwig Alwen, a byddaf yn parhau i gynnig a chefnogi lleoliadau profiad gwaith ar gyfer myfyrwyr cwrs Rheoli Anifeiliaid Coleg Cambria.

Y nod yn y pen draw fyddai tyfu fy musnes ddigon i allu: yn gyntaf, cymryd prentis, a all ddysgu am yrru cŵn sled a rheoli Mynydd Sleddog Adventures wrth i mi fynd yn hŷn; ac yn ail, datblygu rhaglenni uchelgeisiol gyda'r cŵn. Nod y rhain fydd ennyn diddordeb ac ysbrydoli pobl ifanc, gan ddangos iddynt eu bod yn gallu cyflawni beth bynnag y maent eisiau ei wneud os ydynt yn gweithio'n galed ac yn canolbwyntio ar eu nod.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.