Mae sefydlu fy musnes fy hun wedi bod yn brofiad dysgu enfawr i mi ac mae'r cymorth a gafwyd gan Busnes Cymru wedi bod yn wych. Roedd y cwrs 'Rhoi Cynnig Arni' gan Busnes Cymru yn gyfle da i mi ddechrau mapio fy syniadau busnes a deall yn iawn y nifer o ystyriaethau y byddai rhaid imi eu hystyried. Roedd y cyfarfodydd rheolaidd gyda Rob Davies yn Busnes Cymru yn werthfawr iawn wrth fapio'r darlun ariannol ar gyfer y busnes yn enwedig yn ystod yr amseroedd cythryblus presennol, ble mae gwariant a rhagolygon cyllidol mor bwysig.
Gyda chymorth ac arweiniad gwerthfawr gan Busnes Cymru, mae Dan Lydiate wedi gwireddu ei uchelgais fusnes o sefydlu busnes Wyau Maes Organig ar ei fferm deuluol yn Abaty Cwm Hir yng Nghanolbarth Cymru.
Mae'r busnes, No6 Egg Company Limited, yn gweithredu'n llawn ac yn cynhyrchu 1000 o wyau maes organig o'r ansawdd uchaf bob wythnos sy'n gwneud eu ffordd i silffoedd yr archfarchnadoedd Waitrose a Marks & Spencer.
Derbyniodd Dan gymorth ar ôl mynychu cwrs 'Rhoi Cynnig Arni' a ddarparwyd gan ymgynghorydd Busnes Cymru, Carla Reynolds, ac a roddodd gyflwyniad i'r camau cyntaf wrth sefydlu a chynnal ei fusnes ei hun, yn cynnwys taflenni gwybodaeth a thempledi defnyddiol yn ogystal ag arweiniad ar feysydd allweddol i'w hystyried, megis sut i gofrestru ei fusnes, yr yswiriant priodol, a sut i gynnal ymchwil i'r farchnad.
Cynigiodd yr ymgynghorydd busnes, Rob Davies, gymorth arbenigol i Dan hefyd, a rhoddodd ei amser a'i arbenigedd i'w gynorthwyo i greu cynllun ariannol manwl gywir a thaenlen llif arian i'r busnes.
Cysylltwch â ni i gael gwybod sut allwn ni eich helpu chi.