BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

ORTIR Apothecari

ORTIR Apothecari

Gan fod popeth yn cael ei wneud ar y fferm, mae’n anodd ei dal hi ym mhob man. Roedd angen rhywun arnom i’n cynorthwyo ar ein taith ac i roi hwb i’n hyder.

Wedi’i leoli ar fferm yng ngorllewin Cymru, mae ORTIR Apothecari yn creu persawr arbenigol, ac yn tyfu a distyllu cynnyrch botanegol sy’n archwiliad arogleuol o dirlun Cymru.

Lansiodd Lisa Howarth y busnes fis Mai 2022, yn tyfu, cynaeafu, distyllu, cyfuno a phecynnu’r cynnyrch ar y safle. A hithau’n gyfrifol am reoli pob agwedd ar y busnes, cysylltodd Lisa â ni yn Busnes Cymru er mwyn i ni ei helpu i fagu hyder a gweithredu fel bwrdd seinio.

Ar ôl cael ei pharu â mentor busnes, anogwyd Lisa i ganolbwyntio ar strategaethau marchnata a gwerthu.

Drwy weithredu’n ofalus, cafodd Lisa gymorth ei mentor i lywio ei busnes, yn ogystal â’i grymuso gyda’r adnoddau i gyflawni.

A oes angen arnoch hwb i’ch hyder er mwyn i chi fynd amdani a hyrwyddo’ch busnes? Cysylltwch heddiw. 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.