BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Parc Gwledig a Hamdden Meadow Springs

Meadow Springs Country and Leisure Park

Bob cam o’r daith, roedd Busnes Cymru yno i gynghori, arwain a rhoi cyfarwyddiadau i ni.  Aeth cefnogaeth ac arbenigedd eu cynghorwyr i'r afael â nifer o agweddau a chafodd effaith sylweddol ar ein cais terfynol a’i lwyddiant.

Cynlluniodd Jonathan Williams a'i dîm i greu Parc Gwyliau 5*, gydag ardaloedd ar wahân ar gyfer porthordai, carafanau statig, carfanau teithiol a chartrefi modur ac yn ganolbwynt iddo, bwyty a bar.

Gyda chymorth ei gynghorydd Busnes Cymru gwybodus, llwyddodd i ddechrau ei fusnes newydd - Parc Gwledig a Hamdden Meadow Springs.

Gyda datblygiad y Parc wedi’i lesteirio gan y pandemig Covid-19, gan achosi prinder deunyddiau a phroblemau yn y gadwyn gyflenwi, edrychodd Jonathan, ochr yn ochr â’i gynghorydd, ar ffyrdd o liniaru eu heffaith a thrwy addasu eu cynllun busnes, parhaodd y datblygiad i fynd yn ei flaen, yn ystod y cyfnod anodd hwnnw.

Wrth i’r cyfleusterau bwyty a bar ddod yn nes at agor, bu Jonathan a’i gynghorydd yn trafod recriwtio, er mwyn deall y farchnad swyddi leol yn well, mewn perthynas â’r swyddi ychwanegol sydd eu hangen ar y busnes.

Ar ben hynny, cafodd Jonathan gymorth marchnata gan Busnes Cymru, gan alluogi ei fusnes i gynnal ymgyrch cyfryngau cymdeithasol cryf ac effeithiol ac i greu diddordeb ac ymwybyddiaeth gref yn y Parc Gwyliau newydd.

Nawr bod Parc Gwledig a Hamdden Meadow Springs wedi agor, mae’r adborth wedi bod yn wych ac mae newydd ennill Gradd 5* gan Croeso Cymru.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.