BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Pontcysyllte Tea Rooms

Carl Pottinger a Sally Roberts yw perchnogion Pontcysyllte Tea Rooms. Cafodd capel Bryn Seion yn Nhrefor, Gogledd Cymru ei adnewyddu i greu'r ystafell de draddodiadol hon.

Agorwyd yr ystafelloedd te ym mis Chwefror 2018 ger Traphont Ddŵr Pontcysyllte, sy'n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ac mae eu bwydlen yn ystod y dydd yn cynnwys coffi ffres, detholiad o fathau gwahanol o de, cacennau, te prynhawn a byrbrydau ysgafn.

Beth ddaru nhw

"Mae'r syniad o agor caffi yn y capel wedi bod gen i ers blynyddoedd lawer. Doedd yr adeilad ddim yn cael ei ddefnyddio ac roedd yn prysur adfeilio. Ar y pryd, er bod niferoedd yr ymwelwyr i’r safle treftadaeth y byd yn cynyddu, doedd unlle i'r twristiaid fynd ar ôl iddyn nhw gerdded dros y Draphont.

Roedd y capel wedi bod ar werth am oddeutu 8 mlynedd am bris go uchel ac roeddwn i'n meddwl y byddai rhaid i mi werthu cryn dipyn o baneidiau er mwyn iddo dalu ei ffordd! Felly, bu'r syniad ynghwsg tan fis Rhagfyr 2015 pan benderfynodd Carl a minnau ei brynu am bris is.

Cafwyd cyfnod hir o waith adnewyddu, a aeth y tu hwnt i'r amserlen, ac wedi i ni wynebu sawl llanw a thrai, mi agoron ni'r drysau i'r cyhoedd o'r diwedd ym mis Chwefror 2018."

Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol?

"Rydyn ni wrth ein bodd bod pethau wedi bod yn gwerthu'n dda hyd yn hyn. Rydyn ni ar agor rhwng 10am-5pm bob dydd, ond rydyn ni'n ystyried agor gyda'r nos cyn bo hir hefyd. Rydyn ni wedi cael nifer o ddigwyddiadau preifat gyda'r nos ac mae'r adborth wedi bod yn wych."

Eu adeg mwyaf balch mewn busnes

"Rwy'n teimlo'n falch iawn bob tro mae digwyddiad mawr yn cael ei gynnal a finnau'n cael gweld yr adeilad yn llawn a phawb yn mwynhau eu hunain yn gwerthfawrogi'r bensaernïaeth, y bwyd a'r gwasanaeth."

Ydynt yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu busnes? Os ydynt, sut mae hyn wedi eu helpu

"Rydyn ni wedi gwneud ein gorau glas i gadw thema'r capel Cymraeg, mae ganddon ni 'biano Cymreig', ac rydyn ni'n gwerthu llwyth o Fara Brith cartref. Rydyn ni hefyd yn ceisio defnyddio cynnyrch Cymreig gan gyflenwyr lleol, pryd bynnag y bo modd.”

Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru

Cafodd Sally a Carl gymorth gan un o Gynghorwyr Busnes Cymru, Matthew Woodhead gyda chyngor busnes cyffredinol, gan gynnwys cymorth i ddatblygu cynllun busnes a rhagolygon ariannol. Roedd hyn wedi eu galluogi i sicrhau grant twristiaeth o £30,000 i drosi'r hen gapel yn ystafell de, ac i lansio'r busnes yn llwyddiannus ym mis Chwefror 2018.

Yn ogystal, bu'r ymgynghorydd Adnoddau Dynol, Lowri Dundee, yn adolygu a diwygio contractau cyflogaeth, llawlyfrau staff a dogfennau polisi, er mwyn sicrhau bod staff yn cael eu cyflogi yn unol â gofynion cyfreithiol, gan leihau'r perygl y gallai'r busnes wynebu hawliadau a holl oblygiadau ariannol hynny.

Dywedodd Sally: "Dechreuodd fy mhrofiad cyntaf gyda Busnes Cymru trwy argymhelliad gan Lyfrgell Wrecsam. Mynychais nifer o weithdai ar ddechrau busnes newydd ac wedyn fe bennwyd cynghorydd i mi, Matthew Woodhead. Bu ei gymorth yn amhrisiadwy wrth i ni gael ein grant twristiaeth gan Cyllid Cymru ac wrth iddo'n cyflwyno i gynghorwyr eraill a gynorthwyodd â materion Adnoddau Dynol, Iechyd a Diogelwch, marchnata a llawer mwy. Gan ein bod ar ein traed bellach, byddaf yn edrych i weld pa gefnogaeth bellach sydd ar gael ar gyfer fy sgiliau marchnata digidol."

Cyngor Da

Dyma gyngor Pontcysyllte Tea Rooms i unrhyw un arall sy’n awyddus i gychwyn neu dyfu ei fusnes ei hun:

  • defnyddiwch yr holl gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau sy'n cychwyn
  • peidiwch â rhoi'r gorau iddi pan fydd rhwystrau o'ch blaen!
  • ewch ati i rwydweithio â phobl leol - mae cysylltiadau â grwpiau bwyd a thwristiaeth lleol wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.