BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Ride Guide Cymru

Ride Guide Cymru

Busnes Cymru yn cefnogi cwmni teithiau beicio mynydd tywysedig yng ngogledd Cymru.

Crynodeb gweithredol

Sefydlwyd Ride Guide Cymru gan Trystan Rowlands i ddarparu teithiau beicio mynydd tywysedig a phenwythnosau i ffwrdd unigryw yng ngogledd Cymru. Cysylltodd â gwasanaeth cymorth blaenllaw Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru, am gymorth a chyngor ynglŷn â sut i gychwyn arni.

  • dechrau llwyddiannus
  • creu 1 swydd
  • gweithdai a chymorth ymgynghorol un-i-un

Cyflwyniad i'r busnes

Wedi'i sefydlu gan Trystan Rowlands yng ngogledd Cymru, mae Ride Guide Cymru yn cynnig profiadau beicio mynydd tywysedig, unigryw, gan arbenigo mewn penwythnosau holl gynhwysol yn Eryri a Bryniau Clwyd.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Penderfynais ddechrau fy musnes fy hun gan fy mod eisiau troi fy niddordeb yn rhywbeth y gallai pobl eraill ei fwynhau. Rwyf hefyd yn mwynhau datblygu pobl drwy drosglwyddo gwybodaeth iddynt o ran llwybrau, sgiliau a thechnegau beicio.

Rwyf wedi bod yn mynd â phobl allan ar eu beiciau ers blynyddoedd a phenderfynais gymhwyso fel arweinydd beicio mynydd (MTB), fel y gallwn ddechrau trefnu teithiau tywysedig i grwpiau lleol yng ngogledd Cymru. Tyfodd y mathau hyn o deithiau'n raddol nes i mi gael pobl yn dechrau cysylltu â mi yn holi a fyddwn yn gallu trefnu penwythnosau preifat yng ngogledd Cymru. Arweiniodd hyn yn y pen draw ataf yn dechrau fy musnes fy hun.

Mae'n ddyddiau cynnar, ond byddwn yn hoffi ei adeiladu'n raddol dros y blynyddoedd nesaf. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig 4 penwythnos tywysedig holl gynhwysol ar gyfer 2020 gyda thri o'r rhain wedi gwerthu allan. Bydd hyn yn cynyddu i 6-8 taith yn 2021 a hyd at 10 yn 2022.

Pa heriau a wyneboch?

Rwyf wedi wynebu sawl her ar hyd y daith ond y brif un yw sut mae targedu pobl ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â llunio cynllun busnes a rhagolygon llif arian.

Cymorth Busnes Cymru

Mynychodd Trystan weithdy Dechrau a Rhedeg Busnes, gan Busnes Cymru, ac yna cafodd gefnogaeth gan Lowri Roberts, Ymgynghorydd Busnes, a helpodd gyda phob agwedd ar ddechrau busnes, gan gynnwys cynllunio busnes ac arian, yn ogystal â marchnata a'r cyfryngau cymdeithasol, gan alluogi Trystan i lansio ei deithiau beicio mynydd tywysedig, gan greu 1 swydd.

Canlyniadau

  • dechrau llwyddiannus
  • creu 1 swydd
  • gweithdai a chymorth ymgynghorol un-i-un

Mae Lowri [fy ymgynghorydd] wedi bod yn help mawr gyda'r heriau uchod. Mae wedi rhoi cyngor gwych i mi ynglŷn â sut i gyfathrebu â darpar gwsmeriaid ar y cyfryngau cymdeithasol a sut i gynnig cynlluniau talu fforddiadwy iddynt am y teithiau a gynigwn. Mae hefyd wedi fy nghyfeirio at gwrs ar y cyfryngau cymdeithasol wedi'i ariannu'n llawn gyda Busnes Cymru, y byddaf yn ei fynychu ym mis Mawrth. Bydd hyn gobeithio, yn rhoi mwy o ddealltwriaeth i mi ynglŷn â sut i ryngweithio â phobl ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. 

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Mae fy nghynlluniau yn cynnwys ehangu'r nifer o deithiau a gynigwn ar gyfer 2021 a thu hwnt, yn ogystal â hyfforddi a chyflogi tywyswyr ac arweinwyr beicio mynydd tymhorol ar gyfer y teithiau hyn. Yn y dyfodol, hoffwn gynnig cyrsiau hyfforddi ar gyfer beicwyr mynydd fel rhan o'n teithiau.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.