Erbyn heddiw, rwy'n gwerthu cynnyrch mewn marchnadoedd ac mae gen i wefan lwyddiannus ar gyfer archebion. Mae'r cymorth gan Busnes Cymru wedi bod yn amhrisiadwy.
Roedd Sami Gibson yn benderfynol o greu bywyd gwell a hithau'n rhiant sengl di-waith. Penderfynodd ddechrau ei thaith entrepreneuraidd gyda ni yn Busnes Cymru, a mynd ati i sefydlu ei busnes ei hun.
Mae Sami yn byw mewn ardal wledig, heb liniadur na chysylltiad â'r rhyngrwyd, felly roedd sefydlu ei busnes ei hun yn anobeithiol ar y dechrau. Er hyn, gydag arbenigedd a chymorth un i un ei hymgynghorydd busnes, llwyddodd Sami i ddatblygu ei chynllun busnes, rhagamcaniad llif arian a chwblhau ffurflen gais Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer ei busnes, Roots.
O ganlyniad, roedd cais Sami yn llwyddiannus, a dyfarnwyd sŵn cyfan y grant iddi a'i galluogodd i brynu offer a deunyddiau marchnata ar gyfer y busnes. Erbyn hyn, mae Roots yn tyfu ac yn gwerthu perlysiau a phlanhigion mewn ffordd gynaliadwy, ac yn creu blendiau megis stwffin perlysiau cymysg gyda llus gwyllt, halen capan cornicyll, a saws pitsa.
Rydym yn falch iawn o glywed fod Roots wedi cael 8 archeb o fewn y diwrnod cyntaf o lansio'r wefan, ac mae Sami bellach yn cael ei chyfeirio at Cyflymu Cymru i Fusnesau er mwyn adolygu ei gwefan.
Cysylltwch â'n tîm heddiw, ac efallai y gallwn eich helpu chithau hefyd.