BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

SARN Associates

SARN Associates

 

Ymddiswyddodd David Leigh Evans o Ogledd Cymru o yrfa addysgu hir a llwyddiannus i ganolbwyntio ar helpu sefydliadau'r sector preifat a'r sector cyhoeddus i ddatblygu cysylltiadau â'r sector addysg. Lansiodd SARN Associates ac ers hynny mae wedi ei dyfu i ddatblygu llawer o brosiectau addysgol ar gyfer sefydliadau ledled y DU.

  • cymorth gan Fusnes Cymru i ddechrau'r busnes
  • Ymgynghorydd Twf wedi helpu gyda strategaeth
  • 4 partner yn ogystal â rhwydwaith o gyfranogion

Cyflwyniad i'r busnes

Ar ôl treulio 20 mlynedd yn y sector addysgu gan gynnwys saith fel pennaeth ysgol gynradd, penderfynodd David Leigh Evans ymgymryd â her newydd ac arwain tîm o athrawon i ddatblygu pecyn addysg. Roedd hefyd yn cydnabod bod llawer o sefydliadau masnachol a chyhoeddus eisiau ymgysylltu ag ysgolion ond yn ei chael hi'n anodd, felly fe wnaeth hynny ei ysbrydoli i gymryd y naid a sefydlu ei fusnes ei hun.

Wedi'i sefydlu gan David ym 1997, mae SARN Associates, a elwir bellach yn SARN, yn datblygu cysylltiadau rhwng busnesau, ysgolion a'r gymuned, gan ddod â gweithdai o'r byd go iawn i'r ystafell ddosbarth.

Bellach mae gan SARN 4 partner a thîm o gyfranogion gan gynnwys dylunwyr a ffotograffwyr lleol.

Beth aethoch chi ati i'w gyflawni yn eich busnes?

Nod gwreiddiol y busnes oedd cefnogi sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat i ddatblygu cysylltiadau effeithiol â'r sector addysg.

Ar y cychwyn, roedd SARN yn gweithio gyda chwmni trydan mawr, yn ei helpu i ddatblygu rhaglen addysg a chymuned. Ers y prosiect cyntaf hwn, rydym wedi gweithio gyda chleientiaid ledled y DU i ddatblygu llawer o brosiectau amrywiol.

Gyda thîm profiadol a all ddarparu cefnogaeth ar draws sawl sector addysg, mae SARN bellach wedi arallgyfeirio i gynnwys datblygu ein hadnoddau dwyieithog ein hunain yn y Gymraeg a'r Saesneg sy'n cael eu defnyddio gan lawer o ysgolion.

Pa heriau a wyneboch?

Yr her fwyaf oedd datblygu tîm gyda'r sgiliau i ddarparu adnoddau o ansawdd uchel i'n cleientiaid. Yn ffodus, cafodd hyn ei ddatrys ar y cychwyn cyntaf pan gefais fy nghyflwyno i gwmni dylunio rhagorol a gymerodd amser i ddeall anghenion ein cleientiaid yn llawn. Rwyf wedi recriwtio pobl sy'n addysgwyr ymroddedig, ac sy'n deall anghenion ysgolion a grwpiau cymunedol.

Tair blynedd yn ôl, cefais fy syfrdanu gan farwolaeth fy ngwraig. Roedd hi'n ffantastig, ac yn gefnogol iawn o'r busnes. Er bod ei marwolaeth yn ysgytiol, roedd yn rhaid i mi aros yn bositif. Rhoddodd y busnes ffocws i mi, roeddwn yn ôl yn y gwaith ar ôl ychydig o ddyddiau. Mae fy nghyfeillion a'm cydweithwyr wedi bod yn rhyfeddol, ac mae'r gwaith wedi bod yn gysur i mi.

Pam aethoch at Fusnes Cymru?

Cysylltais â Busnes Cymru yn nyddiau cynnar iawn fy nhaith busnes. Yn enwedig pan oeddwn ar fy mhen fy hun, roeddwn i wir yn gwerthfawrogi cefnogaeth ymgynghorwyr Busnes Cymru. Wrth i SARN ehangu, roedd hi'n braf cael rhannu syniadau. Mae'r cyngor a gynigiwyd bob amser wedi bod yn gadarnhaol ac, yn ddiamau, fe helpodd fi i fyfyrio ar yr heriau rydym ni wedi'u hwynebu dros y blynyddoedd.

Canlyniadau

  • cefnogaeth ymgynghorol i ddechrau'r busnes
  • cyngor ynghylch tyfu'r busnes
  • 4 partner ynghyd â thîm o gyfranogion

[Mae fy ymgynghorydd] Carol Williams yn weithiwr proffesiynol eithriadol. Er bod ein busnes yn wahanol, mae Carol bob amser wedi deall ein hagwedd. Mae hi'n gwrando'n ofalus ac yn rhoi ymateb ystyriol. Mae hi'n wych am adnabod cysylltiadau ac mae hynny wedi bod yn llawer o gymorth i SARN. Mae'r holl aelodau o dîm SARN, sydd wedi cwrdd â hi, wir yn parchu ac yn gwerthfawrogi ei chefnogaeth hi.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Mae David bellach yn bwriadu defnyddio dull strategol i ddatblygu SARN yn ymgynghoriaeth addysgol flaenllaw ac mae'n edrych ar ffyrdd o allforio ei syniadau dramor.

Pe hoffech ddarllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i sefydlu neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.