BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Sgarffiau menyw fusnes o Gonwy’n sbarduno llwyddiant allforio

Lucy Hay

O stondin crefftau bach yn Llandudno i gytundebau dosbarthu mawr yn y Dwyrain Canol, mae Lucy Hay wedi profi bod unrhyw syniad busnes yn gallu llwyddo’n rhyngwladol gyda’r cymorth cywir.

Sefydlwyd Art on Scarves yn 2017 fel brand sgarffiau moethus sy’n cynnwys dyluniadau wedi eu darlunio â llaw gan artistiaid Cymreig a Phrydeinig, wedi eu printio â llaw ar sgarffiau gwlanen cashmir, gwlân neu eco-gymysgedd.

O syniad a ddechreuodd fel busnes graddfa fach, yn ymddangos mewn ffeiriau crefftau a sioeau masnach ar draws y DU, mae Art on Scarves wedi datblygu’n gyflym i fod yn fusnes allforio rhyngwladol a enillodd chwe gwobr yn 2023, gyda throsiant blynyddol o £100,000, a dros 250 o gleintiaid ar draws y byd.

Diolch i gefnogaeth Busnes Cymru, llwyddodd Lucy i fynd â’i syniad bwyth ymhellach, gan ennill cytundeb gyda SeaWorld yn Abu Dhabi i werthu pedair cyfres o sgarffiau ecogyfeillgar o boteli plastig wedi eu hailgylchu, a tharo bargen gydag adwerthwr amlsianel mwyaf y Dwyrain Canol, The Landmark Group, yn 2023 yn unig.

Trodd Lucy at Busnes Cymru am gymorth rheoli ychwanegol a chyngor ar allforio yn 2020, ac fe’i cysylltwyd â’r Ymgynghorydd Masnachu Rhyngwladol, Anthony Kirkbride.

Rhoddodd Anthony gymorth i Lucy i ymgeisio i gymryd rhan yn Ymweliad Marchnadoedd Allforio rhaglen Teithiau Masnach Llywodraeth Cymru i Abu Dhabi ym mis Medi 2023. Yn ystod yr ymweliad, treuliodd wythnos yn yr Emiradau Arabaidd Unedig gan fynychu amrywiaeth o gyfarfodydd gwerthu gyda busnesau blaenllaw ar draws yr Emiradau a drefnwyd trwy’r Rhaglen Cyfleoedd Masnachu Rhyngwladol a gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Diolch i gefnogaeth Busnes Cymru, bu modd i Lucy, a ddechreuodd allforio i UDA trwy’r wefan allforio ar lein Faire.com yn ystod y cyfnod clo, fynychu ei digwyddiadau masnachu wyneb yn wyneb cyntaf yn New Jersey ac Efrog Newydd ddechrau 2023. Ar ôl cyfeirio Lucy at gymorth Ymweliadau Datblygu Busnes Tramor (OBDV) Llywodraeth Cymru, cynorthwyodd Anthony Lucy i ddatblygu cais cadarn, yn llwyr seiliedig ar ei phortffolio allforio digidol a gwaith ymchwil i farchnad masnachu UDA, a fyddai’n caniatáu iddi gynnal cyfres  gyfarfodydd fesul un.

Wrth drafod cefnogaeth Busnes Cymru, dywedodd Lucy:

Mae Anthony wedi bod yn system gymorth gadarn i mi dros y ddwy flynedd diwethaf. Yn ogystal â fy nghyfeirio at fentrau allforio anhygoel sydd wedi fy nghynorthwyo i deithio a masnachu ar draws y byd i gyd, mae e wedi fy nghynorthwyo i ddatblygu ymgyrchoedd gwerthu wedi eu targedu, adolygu contractau a sicrhau fy nghytundebau datblygu mwyaf hyd yn hyn. Mae e wedi fy nghynorthwyo hefyd i roi’r Adduned Twf Gwyrdd ar waith, a  bu hyn yn ffactor enfawr wrth ddiogelu fy nghytundeb gyda SeaWorld Abu Dhabi.

Bu derbyn gwahoddiad Anthony i Archwilio Allforio Cymru yn y gogledd yn dro ar fyd i mi, oherwydd dyma lle cwrddais i ag arbenigwyr allforio Busnes Cymru sy’n gweithio yn y Dwyrain Canol ac Efrog Newydd, ac agorodd hyn ddrysau i mi fynd â’m cynnyrch allan ar draws y byd. Pe na bawn i wedi mynychu’r digwyddiad cyntaf yma, byddwn i ddim wedi gallu mynychu digwyddiad Grŵp Busnes Prydain mewn Penty yn Efrog Newydd, gyda 75 o allforwyr mwyaf Prydain oll yn fy ngalw i’n ‘y fenyw sgarffiau’. Roedd hi’n anhygoel.

Mae hi’n hollol anghredadwy fod rhywun o bentref gwledig yng Nghymru’n gallu gweithredu busnes mor fawr. Wir, mae’r cyfan diolch i gefnogaeth Busnes Cymru.

Mae Lucy’n gweithredu Art on Scarves o’i chartref gwledig mewn pentref bach yn y gogledd, lle mae’n cyflogi llond llaw o fenywod lleol sydd naill ai wedi lled-ymddeol neu sy’n methu â gweithio mewn amgylcheddau gweithio traddodiadol, i brintio ei sgarffiau â llaw a’u pecynnu.

Mae Lucy wedi llofnodi contract newydd gyda charchar EF lleol yn ddiweddar sy’n golygu, yn gyfnewid am helpu Lucy i gyflawni archebion rhyngwladol ac ar lein, bod y carcharorion yn cael hyfforddiant mewn amryw o sgiliau fel datblygu cynnyrch, printio, marchnata, cyfathrebu, rhifedd a busnes, a fydd yn fuddiol iddynt ar ôl eu rhyddhau.

Dywedodd yr Ymgynghorydd Masnachu Rhyngwladol, Anthony Kirkbride:

Roedd gan Lucy fusnes llwyddiannus iawn pan drodd at Busnes Cymru. Roedd ganddi sylfaen gadarn o gwsmeriaid yn yr Alban, a oedd wedi cronni trwy amrywiaeth o ddigwyddiadau masnach, ac roedd hi wedi dechrau allforio i UDA yn ddigidol. Am fod gen i gefndir ym maes masnachu rhyngwladol, bu modd i mi helpu Lucy i ddatblygu ei gwybodaeth am y dirwedd masnachu yn y DU, UDA a’r Dwyrain Canol, a’i chynorthwyo i gael cynnyrch i’r marchnadoedd hynny gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru. Mae Lucy’n destament i sut, gydag angerdd dros rwydweithio, gwir gred yn eich cynnyrch a’r cymorth cywir, y gall unrhyw fusnes fod yn llwyddiannus yn rhyngwladol.

Nod nesaf Lucy yw manteisio ar farchnad masnach Japan, cyn mynd i deithio’r byd gan addysgu entrepreneuriaid ifanc, busnesau a myfyrwyr prifysgol sut i lwyddo wrth allforio’n rhyngwladol. Dangoswyd llwyddiant busnes allforio Lucy mewn rhaglen ddogfen newydd a ddarlledwyd gan Sky ym mis Mawrth, a dyma oedd y cam cyntaf ar siwrnai i addysgu busnesau sydd â’u bryd ar gynyddu eu potensial allforio.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ffoniwch 03000 6 03000, rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg, neu ewch i Hafan | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.