BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Shaky McShakeface

Shaky McShakeface

Busnes arlwyo symudol yn lansio ym Merthyr Tudful, diolch i gymorth gan Busnes Cymru.

Wedi'i lansio gan Lee Pullin yn 2020, mae Shaky McShakeface yn fusnes bwyd a diod symudol, yn arbenigo mewn amrywiaeth o ysgytlaethau ac wafflau. Cysylltodd Lee â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru am gyngor i sefydlu ei fusnes. Wedi iddo fynychu gweminar dechrau arni a chael cymorth ymgynghorol un i un wedi hynny, llwyddodd Lee i ddechrau'r busnes yn llwyddiannus yn 2020.

  • Lansiad llwyddiannus
  • £17,000 wedi'i sicrhau drwy'r Cwmni Benthyciadau i Ddechrau Busnes
  • Grant dechrau arni o £2,500 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Creu 1 swydd

Cyflwyniad i'r busnes

Dechreuodd Lee Pullin, entrepreneur o Ferthyr Tudful, ei fusnes bwyd a diod symudol, Shaky McShakeface, yn 2020. Mae'r arlwywr symudol yn cynnig wafflau ac ysgytlaethau mewn digwyddiadau, gwyliau a phartïon preifat.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Mae fy ngwraig a finnau wedi bod wrth ein bodd â bwyd erioed, yn enwedig pwdinau, ond mae bwyty wedi bod y tu hwnt i ni yn ariannol. Gwnaethom benderfynu dechrau'r busnes ar ôl cael ysgytlaethau mewn gŵyl fwyd yn 2019.

Nid oedd o'r ansawdd gorau a chymerodd oes iddynt baratoi beth oedd, i bob pwrpas, yn gymysgedd ysgytlaeth gyda'n dau flas ni wedi'u hychwanegu ato (Oreo a Kinder Bueno), a gwnaeth hyn i ni feddwl "gallem ni wneud yn well". Mae bod yn rheolwr arnaf i fy hun bob amser wedi apelio ataf a phan wnaethom blethu'r ddau beth yma, roedd yn gwneud synnwyr. Yn sicr ni fyddwn wedi gallu cymryd y naid hon heb gymorth a gwaith caled fy ngwraig.

Pa heriau a wyneboch?

Cawsom nifer o heriau ar hyd y ffordd, o danseilio'n sylweddol y gost o ddechrau ein fan ysgytlaeth i ddysgu am yr holl gyfrifoldebau gweinyddol. Serch hynny, yn sicr yr her fwyaf o bell ffordd yw fy hunan-hyder a'm ffydd yn ansawdd y cynnyrch yr ydym yn ei gynnig. Ond mae clywed yr adborth anhygoel yr ydym wedi'i gael yn werth yr holl straen a'r oriau di-dâl.

Cymorth Busnes Cymru

Mae'r ymgynghorydd Benthyciadau Dechrau Busnes, Steve Hammond, ac ymgynghorydd Busnes Cymru, Eve Goldsbury, wedi bod yn gweithio gyda Lee dros y flwyddyn ddiwethaf i ddatblygu ei syniad a'i gynorthwyo drwy'r broses dechrau arni. Rhoddodd Eve gyngor ar ei gynllun busnes a'i ragolygon llif arian, tra bod Steve yn cefnogi Lee drwy broses ymgeisio am gyllid, gan ei gynorthwyo i sicrhau benthyciad dechrau busnes o £10,000. Yn ogystal, cafodd Lee gefnogaeth gan Eve i ddiogelu rhagor o gyllid drwy'r Awdurdod Lleol, gan arwain at gyfanswm buddsoddiad o £19,500.

Roedd y cyllid hwn, yn ogystal â chymorth ychwanegol gyda marchnata a brandio, yn galluogi Lee i drosi fan a lansio ei fusnes symudol, Shaky McShakeface, yn haf 2020.

Canlyniadau

  • Lansiad llwyddiannus
  • £17,000 wedi'i sicrhau drwy'r Cwmni Benthyciadau i Ddechrau Busnes
  • Grant dechrau arni o £2,500 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Creu 1 swydd

Mae Busnes Cymru wedi bod yn hollol amhrisiadwy i mi yn ystod y broses. Mae Eve Goldsbury yn santes! Mae hi wedi rhoi cymaint o wybodaeth i mi a chymaint o'i hamser. Mae hi wedi mynd ar drywydd pethau i mi ac wedi ateb dwsinau o negeseuon e-bost yn llawn cwestiynau gwirion. Ni fyddwn wedi cyrraedd y fan hon hebddi.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Ein cynlluniau uniongyrchol yw goroesi drwy argyfwng Covid-19, sydd wedi ein taro yn eithaf caled. Gan gymryd y byddwn yn cyrraedd yr ochr arall yn weddol iach, ein cynllun yw datblygu'r brand, trosi ail fan o bosibl er mwyn gallu mynychu mwy o ddigwyddiadau. Rydym yn gobeithio agor bwyty un diwrnod.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.