BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Steph Wilson Physio

Steph Wilson Physio

Ffisiotherapydd anifeiliaid a bodau dynol profiadol yn dewis dychwelyd i Gymru i gynnig profiad ffisio penigamp yn Ninbych.

Cyflwyniad i’r busnes

Mae Steph Wilson yn Ffisiotherapydd Siartredig sy’n trin anifeiliaid a bodau dynol yn ardal Gogledd Cymru. Ar ôl magu 15 mlynedd o brofiad mewn ysbytai a phractisau preifat yn Ne Llundain a Chaint, penderfynodd Steph symud yn ôl i Ogledd Cymru i agor ei phractis ei hun, Steph Wilson Physio, a dod â’i gwybodaeth a’i sgiliau i’r ardal leol.

Cefnogaeth Busnes Cymru

Ar ôl symud yn ôl i Ogledd Cymru, penderfynodd Steph drosi ei heiddo i fod yn gartref i’w phractis ffisiotherapi newydd. Gyda phroses anodd o’i blaen, cysylltodd â Busnes Cymru i gael cymorth gyda chaniatâd cynllunio. Helpodd ein hymgynghorydd, Gwawr Cordiner, i ddatblygu ei syniad busnes ymhellach a chynorthwyodd gyda’r broses caniatâd cynllunio.

Cafodd Steph ei pharu hefyd gyda mentor-wirfoddolwr busnes er mwyn cael cyngor ar ddatblygu busnes, marchnata a chael mynediad i rwydweithiau lleol. 

Gwnaethom gwrdd â Steph i ddysgu sut mae gwasanaeth mentora Busnes Cymru wedi’i helpu hi i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol.

Pam gwnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Ar ôl rhedeg busnes ffisiotherapi llwyddiannus yn Ne Llundain a Chaint ers dros 10 mlynedd, penderfynodd fy nheulu a minnau ei bod hi’n amser symud yn ôl i Ogledd Cymru. Roeddwn wedi ennill gwybodaeth a phrofiad mewn ysbytai canol Llundain a phractis preifat fel ffisiotherapydd dynol ac wedi gweithio gyda phractisau anifeiliaid bychan a mawr yn y maes milfeddygol. Mae dechrau eto wedi fy ngalluogi i newid rhai agweddau ar y busnes i wneud y gwasanaeth hyd yn oed yn well. 

Fel Ffisiotherapydd Siartredig gyda Gradd Meistr mewn Ffisiotherapi Milfeddygol, rydw i’n gymwys i gynnig safon uchel o ofal adsefydlu. Fel arbenigwr symudiad, all adnabod poen a newidiadau niwrogyhyrol cynnil, rwy’n gobeithio cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf gan ddefnyddio ymarferion ar sail tystiolaeth lle bo modd, yn ogystal â phroses benderfynu clinigol. 

Pa heriau wyneboch chi?

Rwyf wedi symud yn ôl i Gymru ac wedi gadael busnes a rhwydwaith sylweddol o filfeddygon a chleientiaid. Nawr, rwy’n wynebu mynd yn ôl i’r dechrau ac ennill ymddiriedaeth pobl i ddod i ddefnyddio’r gwasanaeth. Rwyf hefyd wedi wynebu’r her o ddatblygu busnes yn ystod pandemig. Treuliais lawer o’r flwyddyn yn magu fy mhlentyn bach 18 mis oed ac yn addysgu fy mhlentyn 7 oed. Fel arfer, bydden i’n mynd i siarad gyda milfeddygon a chymryd rhan mewn grwpiau a busnesau lleol, ond doedd dim modd i mi ddangos yr hyn rwyf yn ei gynnig, felly rwyf wedi gorfod canolbwyntio ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. 

Pam gwnaethoch chi gysylltu â Busnes Cymru?

Cysylltais â Busnes Cymru i weld pa gefnogaeth oedd ar gael. Cefais fy nghyfeirio at y gwasanaeth drwy Fanc Datblygu Cymru. Gan fy mod eisoes wedi rhedeg busnes, ro’n i angen gwybod a fyddai Cymru’n gallu rhoi rhywbeth gwahanol i fusnes newydd, ac a fyddai modd i mi gael help i wella fy syniadau busnes. 

Sut mae eich ymgynghorydd Busnes Cymru a’ch mentor wedi’ch helpu chi i lywio’r byd busnes? 

Rhywbeth nad oeddwn i wedi’i wneud o’r blaen oedd cael cyfleusterau gartref, ac ro’n i’n awyddus i wneud hyn. Mae gen i ganiatâd cynllunio ar gyfer stablau a chlinig ffisiotherapi yn y tŷ, a chefais gefnogaeth gan fy ymgynghorydd, Gwawr Cordiner, gyda hyn. Roedd llawer o gwestiynau a phenderfyniadau anodd o ran sicrhau’r caniatâd cynllunio.

Rhoddodd gyngor i mi ar faterion megis beth ddylwn i ei ddisgwyl gan yr asiantaethau gafodd eu penodi i helpu. Roedd yn broses gymhleth iawn, ac roedd angen ei dehongli fel fy mod yn deall.

Hefyd, cefais fy nghyfeirio at Michelle Smith sydd wedi gallu fy nghefnogi gydag ochr hyrwyddo’r busnes, a fy nghyflwyno i gymunedau ar-lein all helpu. Er ein bod wedi gwneud llawer o waith ar yr agwedd gyfryngau cymdeithasol, mae mentora Michelle wedi rhoi strwythur a chanllawiau sydd wirioneddol yn fy nghymell pan mae fy ffordd o fyw’n brysur iawn. Mae wedi rhoi llawer iawn o hyder i mi. Rwyf wedi’i chael hi’n anodd hyrwyddo fy hun a’m profiad, ond diolch i’n trafodaethau, rwyf wedi sylweddoli bod hyn yn bwysig iawn.

Cynlluniau ac uchelgeisiau i’r dyfodol

Y cynllun nawr yw rhedeg busnes ffisiotherapi o fy nghlinig ffisio yn Sir Ddinbych. Rwy’n gobeithio trin anifeiliaid bychan a bodau dynol yn y clinig. Byddaf yn trin ceffylau ar iardiau, ond os oes ceffyl sydd angen adsefydlu 24 awr, gall ddod yma i gael ei drin. Rwy’n gobeithio adeiladu practis lle gall pobl deimlo eu bod nhw a’u hanifeiliaid yn cael gwasanaeth o’r radd flaenaf mewn amgylchedd lle gallent ymlacio. 

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant o sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnes, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.