Busnes newydd, sy'n cefnogi teuluoedd ar ôl marwolaeth, yn mwynhau twf ar ôl derbyn cyngor gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru.
Busnes yng Ngogledd Cymru yw Sunset Plan, a chafodd ei sefydlu i helpu teuluoedd gynllunio a datrys amryw o dasgau gweinyddol ar ôl marwolaeth. Meddyliodd Kerry Jones, y sylfaenydd, am y syniad yn dilyn profiad personol torcalonnus, ac ers hynny, mae wedi gweithio gydag ymgynghorydd Busnes Cymru ar bob agwedd o ddechrau busnes.
- Cymorth a chyngor ar ddechrau busnes, gan gynnwys llif arian, marchnata, GDPR a hawlfraint
- Lansiwyd y busnes yn llwyddiannus yn 2020
- Creu 1 swydd
Cyflwyniad i'r busnes
Dechreuodd y busnes yng Ngogledd Cymru gan Kerry Jones, ac mae'n ceisio annog a chefnogi pobl i gynllunio a pharatoi ar gyfer materion ymarferol diwedd oes.
Yn dilyn profiad personol heriol, sefydlodd Kerry y busnes i ddarparu awgrymiadau a chyngor ar agweddau gwahanol o fywyd personol a theuluol sydd angen eu hystyried a delio â nhw ar ôl marwolaeth. Mae Sunset Plan hefyd yn helpu teuluoedd i gwblhau tasgau gweinyddol ymarferol ar ôl colli rhywun sy'n agos iddyn nhw, gan ysgafnhau'r pwysau ac atal straen pellach wrth alaru.
Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?
Ar ôl adnabod bwlch yn y farchnad yn dilyn her bersonol, ymchwiliais y materion ymarferol o amgylch cynllunio diwedd oes. Rwy'n mwynhau cynllunio a threfnu, a meddyliais pan nad oes gwasanaeth o'r fath ar gael, nac yn cael ei drafod yn ehangach gan bobl.
Cysylltais â Busnes Cymru, a chofrestru ar gyfer cwrs Rhoi Cynnig Arni ym mis Ionawr 2020, o ran diddordeb. Roedd yr adborth a dderbyniais gan ystafell o bobl ddieithr yn ddigon i fy sbarduno i ddechrau edrych ar hyn yn fanylach a'i ddatblygu fel busnes. Roeddwn eisiau helpu pobl i osgoi rhai heriau a wynebon ni fel teulu mewn amser o alar.
Pa heriau a wyneboch?
Doeddwn i erioed wedi creu gwefan na blog o'r blaen, ac roedd hynny'n her fawr! Rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau newydd, ac mae'r gymuned o fusnesau newydd wedi bod mor gefnogol a defnyddiol. Gall fod yn frawychus pan mae gennych gymaint o syniadau a chynlluniau ar gyfer datblygu yn y dyfodol. Mae angen ystyried nifer o agweddau - cadw cyfrifon, cyfreithiol, nod masnach, hawlfraint, ariannu, marchnata - mae'r rhestr yn faith.
Yn ogystal â hyn, lansiais y wefan ym mis Mawrth, wrth i Covid-19 achosi i bopeth gau. Roeddwn yn poeni na fyddai pobl yn meddwl ei fod yn briodol trafod materion diwedd oes yn agored; fodd bynnag, nid oedd hynny'n wir. Dechreuodd bobl gysylltu â mi wrth i'r pwnc gael ei drafod yn fwy eang.
Cymorth Busnes Cymru
Aeth Kerry i weithdai dechrau busnes Busnes Cymru, cyn gweithio gyda'i ymgynghorydd busnes, Gwawr Cordiner, ar bob agwedd o sefydlu busnes: o gynllunio busnes, llif arian a threth, i farchnata a brandio, cyllideb goroesi bersonol, cydymffurfiaeth a rheoli cyfrifon.
Roedd Gwawr yn helpu Kerry gyda materion penodol ynghylch costau, GDPR a hawlfraint, gan hwyluso'r broses o lansio'r busnes yn gynnar yn 2020.
Canlyniadau
- Cymorth a chyngor ar ddechrau busnes, gan gynnwys llif arian, marchnata, GDPR a hawlfraint
- Wedi dechrau'n llwyddiannus
- Creu 1 swydd
Helpodd Gwawr a Busnes Cymru i mi ddysgu sgiliau newydd, dilyn strwythur a darparu cymorth penodol i mi. Mae'r nifer o gyrsiau ac adnoddau sydd ar gael yn wych. Roedd treulio amser un-i-un efo Gwawr yn rhoi arweiniad a chyfeiriad i mi. Nid wyf yn credu y byddwn wedi parhau pe na fyddwn wedi cael ei hanogaeth, cyngor a chymorth yn y dyddiau cynner hynny, a nawr. Roedd cael y cyfle i gwrdd â phobl mewn sefyllfa gyffelyb i mi yn fy helpu i siarad am fy nghynlluniau, pryderon a heriau. Mae'n gymuned gefnogol tu hwnt.
Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol
Fy nghynllun cyntaf oedd datblygu'r wefan yn raddol, ychwanegu blogiau amserol yn rheolaidd ac annog pobl i wneud cynlluniau ymarferol. Mae hwn yn brosiect ar yr ochr i mi, ac mae'n caniatáu i mi fod yn greadigol yn ogystal â helpu pobl. Roeddwn yn ffodus o gael ymddangos ar y teledu yn annisgwyl. Mae'r ymateb wedi bod yn arbennig, gyda llawer o bobl yn cysylltu i rannu eu straeon a'r heriau maent wedi eu hwynebu. Mae cymaint o gyfleoedd posib i ddatblygu'r wefan, felly rwy'n edrych ymlaen at y 12 mis nesaf!
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.