BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

SUP Hike Explore Ltd

SUP Hike Explore Ltd

Mae Busnes Cymru wedi rhoi cymorth gwych ac adnoddau i’m cynorthwyo ar fy nhaith fusnes.

Ar ôl ystyried dechrau busnes am sbel, fe drodd Kris Roach ei ddiddordeb a’i frwdfrydedd dros badlfyrddio yn fusnes ei hun. 

Drwy fynychu gweminar a chael cyfarfodydd 1 i 1 gydag ymgynghorwyr busnes arbenigol; trafod ei gynllun busnes, sut i ddatblygu strategaeth farchnata a chreu rhagolwg o lif arian, cafodd Kris yr hyder i wireddu ei nod o agor ei fusnes.

Cododd rhwystrau pan oedd Kris angen offer ychwanegol er mwyn sicrhau ei fod yn gallu cynnig sesiynau drwy gydol y flwyddyn. Gwnaeth gais llwyddiannus a sicrhau Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes a’i cynorthwyodd i ariannu hyn a’i alluogi i agor SUP Hike Explore Ltd!

Dysgwch sut allwn ni fod o gymorth i chi ar eich taith i ddechrau busnes. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.