BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

The Tired Mama Collection

The Tired Mama Collection

 

Pan ddechreuodd Danielle Davies ei chyfnod mamolaeth a phenderfynu wedyn nad oedd am ddychwelyd i’w gyrfa fel athrawes ysgol gynradd, cafodd y syniad o greu The Tired Mama Collection

Cafodd y busnes, a leolir yng Nghastell-nedd, ei sefydlu yn 2017 fel brand dillad newydd sbon danlli ar gyfer mamau ar draws y byd, wedi’i ysbrydoli gan y brwydrau beunyddiol o fod yn fam flinedig – neu’n ‘Tired Mama’.

Eisoes, mae Danielle wedi mynd ati i gyflogi tri o gynorthwywyr rhan amser.

Beth ddaru nhw

Ar ôl cael cymorth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, bu modd i Danielle greu cynllun busnes a llunio cais am gyllid i ariannu ei chynlluniau ar gyfer ymestyn a thyfu’r busnes. Bu Danielle yn llwyddiannus a chafodd grant o £25,000 gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd.

“Yn The Tired Mama Collection, rydym wedi ymrwymo i ddathlu’r elfennau sylfaenol sy’n perthyn i fod yn fam – o’r nosweithiau di-gwsg i’r newid yn siâp ein cyrff, rydym yn deall pob dim. Rydym yn cynnig dillad cyfforddus, trwsiadus a llawn steil a fydd yn gwneud ichi deimlo y gallwch wynebu beth bynnag a ddaw i’ch rhan yn ystod y dydd.

Caiff ein gwaith dylunio, argraffu, gwnïo a phacio i gyd ei wneud yn fewnol yn ein stiwdio yn Ne Cymru, a hynny gan ein criw dihafal o ‘Famau’. A chaiff pob archeb ei theilwra’n arbennig ar gyfer y cwsmer.” - Danielle Davies, Perchennog The Tired Mama Collection.

Diolch i dwf eithriadol ei busnes, daeth Danielle yn ail yng Ngwobrau Busnes Abertawe ym mis Tachwedd 2018.

Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol

“Y peth pwysicaf imi ei sylweddoli’n ddiweddar oedd yr angen i ganolbwyntio ar y cwsmeriaid sydd gennyf yn barod. Wrth gwrs, nid yw hyn yn berthnasol i bob busnes; ond i mi, mae symud oddi wrth ganolbwyntio ar chwilio am gwsmeriaid newydd i ganolbwyntio ar y cwsmeriaid sydd gennyf yn barod wedi arwain at gynnydd yn fy ngwerthiant. Roeddwn i’n treulio amser ac ymdrech yn targedu cwsmeriaid newydd, yn ceisio’u hannog i ymddiried yn y busnes ar-lein newydd hwn, yn eu perswadio ein bod yn cynnig ansawdd a gwasanaeth da. Eto i gyd, roedd gennyf ferched a oedd yn gwybod hyn yn barod; roedden nhw wedi cael profiad o’n gwasanaeth a’n hansawdd, felly mi ddylwn fod wedi canolbwyntio ar eu denu nhw’n ôl.

Ym mis Ebrill eleni, dechreuais ganolbwyntio o ddifrif ar y cwsmeriaid yma, ac mae’r gwerthiant wedi bod yn well nag erioed. Wedi’r cwbl, ‘ar lafar gwlad’ yw’r ffordd orau o gyrraedd cwsmeriaid newydd. Pe bai pob un o ’nghwsmeriaid yn fy argymell i un fam arall, dyna ddyblu nifer fy nghwsmeriaid heb i mi orfod gwneud dim. Mae’n edifar gennyf na fuaswn wedi meddwl am hyn o’r blaen! Rydw i wrth fy modd yn gweld nifer y cwsmeriaid sy’n dychwelyd yn tyfu. Ddiwedd 2017 roedd 12% o’r gwerthiant yn deillio o gwsmeriaid a oedd wedi dychwelyd, ond y mis diwethaf roedd wedi cynyddu i 37% - mae’r ffaith fy mod wedi cael cynnydd o 25% trwy wneud hyn yn arwydd i mi mai dyma’r llwybr i’w droedio.”

Eu adeg mwyaf balch mewn busnes

“Yr hyn yr ydw i’n ymfalchïo fwyaf ynddo yw gweld fy eitemau hwnt ac yma. Gan mai busnes ar-lein ydyw, nid ydym byth yn gweld yr wynebau sy’n prynu’r eitemau. Yn wir, rydw i’n anghofio’n aml fod yr eitemau yr ydym yn eu creu yn mynd allan i’r byd go iawn! Felly, pan welaf fam yn grand i gyd yn ei siwmper neu ei chrys-T, rydw i’n gorfod fy rhwystro fy hun rhag dawnsio yn y stryd!”

Ydynt yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu busnes

Caiff y Gymraeg ei defnyddio yn y busnes pa bryd bynnag y bo modd.

Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru

Elwodd Danielle ar doreth o gymorth gan Busnes Cymru. Bu Eve Goldsbury, cynghorydd Busnes Cymru, yn helpu Danielle gyda’i chynllun busnes, ei llif arian a’i rhagolygon ariannol, i ategu cais llwyddiannus am arian gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd.

Bu’r cyngor a roddodd Eve o safbwynt cyflogaeth – a oedd yn cynnwys help i recriwtio, contractau, polisïau a gweithdrefnau – yn hollbwysig i alluogi Danielle i ymestyn ei thîm trwy gyflogi tri o gynorthwywyr rhan amser.

Hefyd, cafodd Danielle gymorth gyda marchnata ac mae’n elwa ymhellach ar raglen Mentora Busnes Cymru.

Dywedodd Danielle: “Drwy gael Eve fel person cyswllt o fewn Busnes Cymru, rwy’n gwybod pryd bynnag y byddaf yn ansicr o rywbeth neu angen cadarnhad, bydd Eve bob tro yn ateb fy ngalwad ffôn. Mae hi ychydig fel mam yn y byd busnes. Mae Eve yna pan fyddaf angen cyngor, cysur neu anogaeth. Fel athrawes ysgol gynradd, nid oedd gennyf unrhyw wybodaeth o’r byd busnes. Roedd yn rhaid i mi ddysgu’r cyfan. Hyd yn oed heddiw, ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae gennyf gymaint i’w ddysgu. Felly, drwy gael Eve ar ochr arall y ffôn, mae wir yn llinell gymorth amhrisiadwy rwy’n hynod ddiolchgar o’i chael. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi i barhau â thwf fy musnes.”

Cyngor Dda

Dyma awgrymiadau ardderchog The Tired Mama Collection ar gyfer pwy bynnag sy’n dymuno dechrau neu dyfu ei fusnes ei hun:

  • Peidiwch â chywilyddio o achos eich bod yn fusnes bach. Mae pob un ohonom yn anelu at lwyddo a chyrraedd y brig! Wrth gwrs, mewn sawl busnes bydd angen ichi eich portreadu eich hun fel brand proffesiynol. Ond i mi, fel busnes ar-lein, rwy’n cystadlu gyda’r gynnau mawrion. Danfon yn gyflym, amrywiaeth enfawr o eitemau a phrisiau rhatach. Felly, canolbwyntiwch ar y pethau y gallwch chi eu gwneud, ond na allan nhw! Rhowch wyneb a chefndir i’r brand, gadewch i bobl ddod i’ch adnabod ac, yn eu tro, ymddiried ynoch. Cynigiwch wasanaeth personol i’ch cwsmeriaid. Siaradwch â’ch cwsmeriaid, diolchwch iddynt yn bersonol. Lapiwch bethau’n gywrain â llaw, cynigiwch wasanaeth gwych o’r cychwyn hyd at y diwedd!
  • Gofynnwch am help a chymerwch ef! Gall busnes fod yn arswydus! Ffurflenni treth, cyfreithiau cyflogaeth neu’r gwaith cyffredinol o reoli’r busnes o ddydd i ddydd – gall y rhain eich llethu yn aml. Mae adnoddau gwych i’w cael a all fod o fudd mawr. Mae cyrsiau a sesiynau mentora rhad ac am ddim Busnes Cymru wedi bod mor bwysig i mi a’m busnes. Os nad ydych yn hyderus neu’n siŵr ynghylch rhywbeth, yn ôl pob tebyg mae yna rywbeth ar gael i’ch helpu. Os na allwch ddod o hyd iddo ar-lein, codwch y ffôn a gofynnwch am help. Mae Busnes Cymru eisiau eich gweld yn llwyddo. Defnyddiwch yr adnodd. Defnyddiwch yr amser i fuddsoddi ynoch chi eich hun a’ch gwybodaeth. Mae’n wirioneddol amhrisiadwy.
  • Tynnwch ddigon o sylw at eich busnes. Yn aml, mae’n anodd iawn dweud: “Rydw i’n ddigon da”, yn enwedig wrth bobl ddiarth! Ond os na wnewch chi, pwy wnaiff? Gyda busnesau bach yn dod i’r fei o bob twll a chornel yn ddiweddar, mae’n hawdd ichi gael eich colli yn eu canol. Sefwch ar eich traed a bloeddiwch. Rhannwch adolygiadau eich cwsmeriaid, eich gwobrau a’ch llwyddiannau! I mi, roedd yn bwysig imi greu cysylltiad â manwerthwyr lleol er mwyn iddynt stocio ein heitemau. Profiad erchyll oedd codi’r ffôn neu e-bostio a pherswadio pobl (nad oeddynt erioed wedi clywed amdanom, o bosibl) ein bod yn deilwng ac y dylent gadw ein heitemau yn eu siop. Ond pwy, ar wahân i mi, a fyddai’n gwneud hynny?
  • Cynlluniwch a gosodwch dargedau. A minnau â chefndir mewn dysgu, mae fy ffordd o weithio wedi’i seilio ar dargedau a chynlluniau, ac mae hyn wedi bod o fudd mawr i’r busnes. Gosodwch dargedau bach i chi eich hun – er enghraifft targed yn ymwneud â gwerthiant neu’r cyfryngau cymdeithasol. Meddyliwch ble yr hoffech fod ymhen mis a chynlluniwch sut yr ydych am gyrraedd y fan honno. Beth y dylech ei wneud i sbarduno gwerthiant yn ystod cyfnodau tawel? Sut y gallwch annog pobl newydd ar eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol? Ddim yn llwyddo i’w cyrraedd? Os felly, eisteddwch ac ewch ati i lunio nodau mwy realistig. Hyd yn oed os mai gwerthu un eitem yn fwy yr wythnos yw’r nod hwnnw.
  • Peidiwch â gadael i anawsterau eich digalonni. Cofiwch fod y goreuon yn ein plith, hyd yn oed, wedi ymdrechu, methu a chael eu gwrthod.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.