BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Toddle

Toddle

Ar ôl 9 mlynedd fel Swyddog yn y Lluoedd Arfog (RAF), penderfynodd Hannah Saunders adael a sefydlu ei busnes gofal croen antur ei hun. O Hwb Menter Wrecsam, Busnes Cymru, mae Toddle bellach yn cynhyrchu cynnyrch i deuluoedd sy'n caru'r awyr agored ac eisiau gwarchod a maethu eu hanturwyr ifanc.

Lansiwyd Toddle yn 2018 ac mae bellach yn cyflogi 2 aelod o staff.

Beth ddaru nhw

"Roeddwn yn berson anturus iawn cyn cael fy mab, ac nid oedd cael babi, yn golygu fy mod, mwyaf sydyn, eisiau aros i mewn. Roeddwn eisiau parhau i dicio eitemau oddi ar fy rhestr o bethau i'w gwneud cyn marw ac roeddwn eisiau mynd â fy mab gyda fi ar yr anturiaethau hyn. Fodd bynnag, byddai ei wefus yn cracio'n ofnadwy, yn enwedig yng ngaeaf Prydain.

Felly, dechreuais edrych o gwmpas, ac nid oeddwn yn gallu dod o hyd i unrhyw beth ar y farchnad iddo. Nid oedd y balmau gwefus y des ar eu traws yn gwarchod rhag y glafoerion. Cefais drafferth hefyd i ddod o hyd i rai ar gyfer ei oed (h.y. o dan 3 mlwydd oed). Yna, penderfynais wneud un fy hun, yn fy nghegin, gan ddefnyddio cynhwysion naturiol megis olew cnau coco, olew llwyni chochoba a chwyr gwenyn. Ar ôl postian, ffeindiais, yn y pen draw, rysáit a weithiai!" - Hannah Saunders, Sylfaenydd Toddle.

Fel cyn-aelod o'r Lluoedd Arfog, roedd Hannah yn gallu sicrhau cymorth gyda'i chynllun busnes a benthyciad cychwyn busnes drwy X-Forces. Roedd hi'n llwyddiannus wrth sicrhau buddsoddiad (£200,000) a lansiodd y busnes o Hwb Menter Wrecsam, Busnes Cymru.

Mae Hannah eisoes wedi cyflwyno ei syniad yn llwyddiannus i Boots, ac ar hyn o bryd, mae hi mewn trafodaethau ag Waitrose, John Lewis a Tesco.

Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol

"Ni fyddwn wedi treulio cymaint o amser yn cynllunio ac yn dylunio, byddwn hefyd wedi dod o hyd i weithgynhyrchwyr yn gynharach - rwy'n teimlo fel y cafodd amser ei wastraffu yn y meysydd anghywir."

Eu adeg mwyaf balch mewn busnes

"Fy adeg fwyaf balch oedd ennill 'Pitch It Cymru', a drefnwyd gan y mudiad Creu Sbarc, a sicrhau buddsoddiad gwerth £50,000 ynghyd â mentora gan gonsortiwm hyfryd o fuddsoddwyr a elwir yn Inspire Wales (gan gynnwys Hayley Parsons, Sylfaenydd GoCompare).

Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru

Cefnogwyd lansiad llwyddiannus Toddle gan wasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru, y gwnaeth ei gynghorwyr helpu gyda chynllunio busnes, dod o hyd i gyllid a gweithdai, gan gynnwys cyrsiau Cyflymu Cymru i Fusnesau ar farchnata digidol.

Yn ogystal, cafodd Hannah gymorth gan y cynghorydd allforio, Keith Stringer i archwilio cyfleoedd i ddechrau masnachu yn rhyngwladol a mynd i mewn i farchnadoedd yn yr UE, yr UDA ac Awstralia.

Erbyn hyn, mae Toddle yn rhan o'r Rhaglen Cyflymu Twf, sy'n cynorthwyo gyda phecyn gwaith Cysylltiadau Cyhoeddus. Defnyddiodd Hannah Angylion Buddsoddi Cymru hefyd drwy Fanc Datblygu Cymru, sydd wedi ei helpu i sicrhau buddsoddiad pellach gwerth £150,000.

Cyngor Dda

Dyma awgrymiadau ardderchog Toddle ar gyfer unrhyw un arall sy'n dymuno dechrau neu dyfu eu busnes eu hunain:

  • os oes gennych rywbeth gwael i'w wneud, gwnewch hwnnw peth cyntaf yn y bore, fel bod gweddill eich diwrnod yn gwella
  • cyflogwch rywun i wneud y pethau nad ydych yn dda am eu gwneud...peidiwch â gwastraffu amser yn ceisio cael trefn ar wefan, er enghraifft. Treuliwch eich amser yn bwrw ati â'r hyn yr ydych yn ei wneud orau
  • os yw tasg yn anodd, dechreuwch ar ei rhan gyntaf. Os ydych angen ysgrifennu e-bost cymhleth neu gyflwyno ffurflen dreth, yn syml dechreuwch gyda'r frawddeg gyntaf neu wythnos gyntaf y flwyddyn dreth

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.