BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Tom Owen and Son Ltd

Tom Owen and Son Ltd

Diolch i Fusnes Cymru rydym mewn gwell safle i wasanaethu’r gymuned gyfan.

Roedd y cwmni trefnwyr angladdau teuluol, Tom Owen and Son, yn awyddus i’w proses recriwtio fod yn fwy cynhwysol felly cysylltodd Kelly Bowsher, Trefnwr Angladdau, â Busnes Cymru.

Yn gwmni blaengar a brwd dros gyflogaeth gynhwysol, galluogodd y gefnogaeth a dderbyniodd Kelly gan ei Chynghorydd Cyflogaeth Pobl Anabl i’r busnes roi canllawiau priodol yn eu lle er mwyn cyrraedd mwy o ddarpar ymgeiswyr.

Gyda’r gefnogaeth a gawsant gan eu Cynghorydd, diweddarwyd polisi Gwahaniaethu ar sail Anabledd, a chyflwynwyd polisi Niwroamrywiaeth i’r broses recriwtio, yn ogystal â chofrestru ar y Cynllun Hyderus o ran Anabledd hefyd.

Dilynwch y ddolen i ddarganfod mwy am y math o gymorth sydd ar gael gan ein Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.