BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Traed Fyny – Feet Up

Traed Fyny – Feet Up

 

Penderfynodd Nia Jones o Ddinbych ddechrau ei busnes ei hun, Traed Fyny - Feet Up, wedi'i hannog gan yr angen am well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a mwy o hyblygrwydd i ofalu am ei theulu ifanc. Cysylltodd â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru a chafodd cefnogaeth ymgynghorol gyda phob agwedd ar ddechrau a rhedeg ei busnes ei hun a alluogodd iddi ddechrau gweithio fel adweithegydd clinigol ym mis Gorffennaf 2019.

  • lansio busnes adweitheg yn llwyddiannus
  • gyda chefnogaeth gan Fusnes Cymru
  • cyngor ynghylch cynaliadwyedd trwy Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru

Cyflwyniad i fusnes

Yn ddiweddar, sefydlodd y Gymraes Nia Jones , sy'n angerddol am iechyd a lles, ei busnes adweitheg clinigol ei hun. Wedi'i lansio ym mis Gorffennaf 2019, mae'r busnes yn cynnig triniaethau cyfannol proffesiynol yn arbenigo mewn adweitheg yn Ninbych a'r cyffiniau.

Pam oeddech chi eisiau cychwyn busnes eich hun?

Dechreuais fy musnes fy hun er mwyn rhoi’r hyblygrwydd a’r cydbwysedd gorau i mi a fy nheulu. Yn amserol iawn, roeddwn wedi gallu cychwyn yr hyfforddiant i fod yn Adweithegydd Clinigol yn ystod fy nghyfnod mamolaeth ac mae bod yn fos arnaf i fy hun yn caniatau i mi weithio o amgylch dyletswyddau bod yn fam a gwraig!

Teimlais hefyd, nad oedd gen i sgil unigryw i’w rannu gydag eraill, arwahan i sgiliau cyfathrebu ac ymwneud â phobl. Fel mam dwi’n annog fy mhlant i fentro gyda’r petha sy’n eu gwneud nhw’n hapus, ac i ddysgu sgiliau newydd gymaint ag y gallen nhw. Felly mae hynny hefyd wedi bod yn ffactor dros ddewis bod yn Adweithegydd Clinigol. Mae’r gwaith dysgu wedi bod yn agoriad llygad ac yn hynod o ddiddorol, a dwi dal i ddysgu rwan. Mae gallu helpu eraill i wella eu hunain drwy dderbyn Adweitheg gen i yn amhrisiadwy.

Pa heriau a wyneboch?

Yr her fwyaf i mi oedd jyglo bob dim o ran astudio, ysgrifennu astudiaethau achosion, magu’r plant, cynnal swydd rhan amser arall a thrio chael ychydig o ‘amser i mi fy hun’ hefyd!

Cefnogaeth Busnes Cymru

Cafodd Nia fynediad i'r gwasanaeth Busnes Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg. Cafodd gefnogaeth ymgynghorol gyda'r prif agweddau ac ystyriaethau o ddechrau busnes. Cynorthwyodd yr ymgynghorydd Sian E Jones ymhellach gydag enw'r busnes, marchnata, ymchwil i'r farchnad, statws cyfreithiol, yswiriant, treth ac Yswiriant Gwladol.

Mae Sian yn dal i fonitro ei chynnydd ac yn darparu cefnogaeth barhaus i Nia wrth iddi geisio mynd â'r busnes i'r lefel nesaf.

Deilliannau

- Fe wnaeth y cyngor a’r gefnogaeth a ddarparwyd gan Fusnes Cymru alluogi Nia i symud ymlaen a dechrau masnachu ym mis Gorffennaf 2019.

- Cymorth cynaliadwyedd i helpu gyda mesurau effeithlonrwydd adnoddau trwy Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru.

Mae’r gefnogaeth gan Sian wedi galluogi i mi dderbyn gwybodaeth am gyrsiau na wyddwn am eu bodolaeth o’r blaen. Mae hi hefyd wedi fy rhoi ar ben ffordd ac wedi gwneud i mi sylweddoli bod yna le i mi a fy musnes yn y byd sydd ohonni ac mae hynny wedi rhoi hyder i mi.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Hoffwn fod yn adnabyddus am gynnig diwrnodau lles yn y gweithle i sicrhau gweithluoedd bodlon eu byd. Mae lles a daioni staff mor bwysig ac yn dylanwadu gymaint ar berfformiad unigolion yn y gweithle. Hoffwn hefyd arbennigo mewn Adweitheg sy’n benodol ar gyfer poen cefn ac Adweitheg Clust. Mae’n freuddwyd i mi gael gweld Adweitheg yn cael y cydnabyddiaeth mae’n ei haeddu.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant ynglŷn â sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru  ar Twitter.

     

     

     

     


    Llinell Gymorth Busnes Cymru

    03000 6 03000

    Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

    Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.