BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Twf ar ras i gwmni gweithgynhyrchu systemau storio beics o Bowys

Stashed Products team members

Mae cwmni gweithgynhyrchu o Bowys, sydd ag enillwyr medalau aur Olympaidd, gyrwyr fformwla un ac enwogion sy’n mwynhau seiclo ymhlith ei gwsmeriaid, yn dathlu £2 filiwn o werthiannau, sy’n garreg filltir bwysig i’r cwmni ers iddo gael cymorth allforio gan Fusnes Cymru.

Lansiodd Elliot Tanner Stashed Products yn 2021 ar ôl gweld bod bwlch yn y farchnad ar gyfer ei system atebion storio beics. Ond mae’r hyn a ddechreuodd fel prosiect ochrol yn ystod y cyfnod clo bellach yn gweld y cynnyrch sy’n cael ei gynhyrchu ym mhentref bach Aber-miwl yn cael ei allforio i bedwar ban y byd.

Mae systemau Stashed Products yn caniatáu i gwsmeriaid hongian, troi, tynnu a storio eu beics mewn ffordd hwylus a diogel sy’n defnyddio lle yn effeithiol. Daeth yr ateb arloesol yma i storio beics yn boblogaidd iawn yn Awst 2022, ar ôl i fideo sy’n dangos y sylfaenydd yn arddangos ei gynnyrch ledu’n gyflym ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda 100,000 o bobl ei hoffi ac 8 miliwn o bobl ei wylio ar Facebook ac YouTube.

Dechreuodd Elliot, a fu gynt yn berchennog cwmni o ymgynghorwyr ymchwil a dylunio (R&D), allforio trwy’r platfform e-fasnach Shopify. Ar ôl gwerthu ambell i eitem trwy allforio, gofynnodd am gyngor i’w gynorthwyo i dyfu i mewn i farchnadoedd newydd.

Heddiw, diolch i gymorth Busnes Cymru, allforion sydd i gyfrif am 80% o werthiannau blynyddol Stashed Products. Dros y ddau fis diwethaf yn unig, mae’r gweithgynhyrchwr wedi allforio i 35 o wledydd ar draws y byd.

Esboniodd Elliot:

Yr amser yma’r llynedd, busnes ochrol oedd Stashed Products i mi. Mewn cwta blwyddyn, rydw i wedi dod yn berchennog busnes llawn-amser, wedi cyflwyno wyth aelod bendigedig i’r tîm, gan gynnwys rheolwr gwerthu, rheolwr peirianneg a gweithrediadau, arbenigwyr marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol, a phedwar aelod newydd i’r tîm gweithrediadau. Fe symudon ni i uned newydd sbon ym Mhowys ym mis Tachwedd 2023 hefyd. Ni fyddai hyn wedi digwydd o gwbl heb gymorth Busnes Cymru. Bydden i’n dal i fod yn gweithio o’r ystafell sbâr siŵr o fod.

Trodd Elliot at Busnes Cymru yn 2021 yn gyntaf, ac o fewn dim o dro cafodd ei gyfeirio at Steve, rheolwr perthnasau, sydd wedi arwain datblygiad Stashed byth ers hynny trwy helpu i lunio cynlluniau busnes, cofrestru’r cwmni fel cwmni ardystiedig, rhoi polisïau AD ar waith, diogelu safle, a chyflogi arbenigwyr newydd. 

Ar ôl gweld potensial y busnes, cynorthwyodd y rheolwr perthnasau Elliot i gael cyngor arbenigol pellach ar Fasnachu Rhyngwladol a arweiniodd at gais llwyddiannus i fynd ar ei daith fasnach gyntaf i California, a agorodd y drws ar farchnad twf newydd bwysig ar gyfer y busnes. Cafodd Elliot ei gyflwyno i Arbenigydd Arloesi yn Llywodraeth Cymru hefyd, a roddodd gymorth iddo ddiogelu grant ymchwil a datblygu Cymorth Arloesi Arbenigol SMART ochr yn ochr â chymorth wedi ei deilwra gan arbenigwyr o’r diwydiant, a alluogodd iddo gael cyllid cyfatebol i ariannu gwaith ymchwil a datblygu ar gyfer ei gynnyrch newydd.

Parhaodd Elliot i ddweud:

Heb gymorth Steve, ynghyd â chymorth Arloesi Busnes Cymru a Masnachu Rhyngwladol Busnes Cymru, adref yn yr ystafell sbâr fydden i o hyd yn creu ac yn postio’r cynnyrch yma. Does dim cefndir busnes gen i, felly fel llawer o entrepreneuriaid eraill, doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r cymorth oedd ar gael. Mae Steve wir wedi fy nghynorthwyo i osod sylfeini cadarn ar gyfer fy musnes ar raddfa fyd-eang.

Mae Stashed Products yn bwriadu sefydlu canghennau dosbarthu yn Ewrop ac UDA, a fydd yn gwneud allforio’n haws o lawer. Mae’r tîm wrthi’n cwblhau tri o gynhyrchion newydd, a gaiff eu datgelu’n ddiweddarach eleni.

Ychwanegodd Steve Maggs:

Mae gweld Elliot yn mynd â  Stashed Products o fod yn fusnes ochrol i fod yn fusnes rhyngwladol saith-ffigur yn y cyfnod byr rydyn ni wedi bod yn cydweithio wedi bod yn wych. Dyma beth sy’n gwneud fy swydd fel ymgynghorydd yn werth chweil. Mae poblogrwydd Stashed Products wedi datblygu ar garlam ac wedi gadael Elliot yn gorfod dal i fyny o ran strategaethau busnes a pholisïau AD. Fe ddarparais i gyngor ac arweiniad i helpu Elliot i gyflawni llwyddiant i’w fusnes mewn ffordd syml a hydrin.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ffoniwch 03000 6 03000 neu ewch i Hafan | Busnes Cymru (gov.wales). Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.