Busnes twba twym, sydd wedi ennill gwobrau, yng ngogledd Cymru yn edrych ymlaen at flwyddyn o dwf.
Bu i Gareth Jones, y Cyfarwyddwr Gweithredol, gychwyn UK Leisure Living yn 2015, ac ers hynny mae wedi ei ddatblygu yn un o fasnachwyr twba twym mwyaf blaenllaw y DU. Cysylltodd â gwasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru i geisio cymorth gyda datblygu'r busnes ymhellach, ac mae wedi elwa o amrywiaeth o gymorth arbenigol, yn cynnwys cymorth gyda recriwtio a diweddaru eu polisïau a gweithdrefnau AD.
- cymorth Rheoli Cysylltiadau gyda chynlluniau i ehangu
- cymorth gyda recriwtio
- cymorth Adnoddau Dynol arbenigol
Cyflwyniad i'r busnes
Mae UK Leisure Living yn un o'r brandiau twba twym mwyaf blaenllaw yn y DU, ac yn gweithredu ar draws y sectorau cartref, hamdden ac adeiladu. Mae'r busnes yn cynnig yr offer hamdden awyr agored a dan do diweddaraf, yn cynnwys twba twym o ansawdd uchel, sbâu nofio, a gwasanaethau deciau cyfansawdd.
Gyda'i brif ystafell arddangos ym Mochdre ger Bae Colwyn, mae UK Leisure Living yn ymestyn ar draws gogledd Cymru, Cilgwri, Sir Gaer a Manceinion, ac yn darparu ar gyfer amrywiaeth o gyllidebau a manylebau.
Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?
Rwy'n un sy'n manteisio ar gyfleoedd, felly rwyf wedi sefydlu nifer o fusnesau dros y blynyddoedd. Y prif reswm am hyn yw'r rhyddid y mae'n ei roi i mi! Hefyd, y posibilrwydd o ennill cyflog diderfyn.
Pa heriau a wyneboch?
Mae cymaint o heriau wedi codi dros y blynyddoedd! O gynbartneriaid busnes twyllodrus i'r dirwasgiad yn 2008, i faterion â staff - heriau, rwy'n credu, mae pob perchennog busnes yn dod ar eu traws.
Cymorth Busnes Cymru
Mae Busnes Cymru yn darparu cymorth Rheoli Cysylltiadau gyda datblygiad y busnes, recriwtio drwy gynllun Twf Swyddi Cymru a gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer eu safle newydd. Mae arbenigwr AD yn helpu Gareth a'r tîm ymhellach gyda diweddaru eu polisïau a gweithdrefnau.
Canlyniadau
- cymorth Rheoli Cysylltiadau gyda chynlluniau i ehangu
- cymorth gyda recriwtio
- cymorth Adnoddau Dynol arbenigol
Wrth gysylltu â Busnes Cymru a'n Rheolwr Cysylltiadau, Svetlana Ross, cawsom ddiweddariad ar y cymorth sydd ar gael ar y funud. Yn dilyn ymlaen o hynny, rydym mewn cysylltiad ag ymgynghorydd AD sy'n adolygu ein polisïau a gweithdrefnau AD, tra bo Svetlana yn ein helpu ni i wneud cais am grantiau ac edrych ar gyflogi mwy o bobl.
Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol
Mae gennym gymaint ohonynt! Y brif flaenoriaeth ar y funud, fodd bynnag, yw lansio canolfan sba nofio gyntaf Cymru i gyd fynd â'n busnes twba twym sydd eisoes yn llwyddiannus.
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.