BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

The VAE

The VAE

Ni fyddwn wedi gallu llwyddo heb eich cefnogaeth chi yn Busnes Cymru - felly Diolch yn fawr iawn!

Dechreuais ar ben fy hun, ddim yn adnabod unrhyw un yng Nghymru - nawr, rwyf wedi integreiddio'n llwyr â'r gymuned leol a Gogledd Cymru.

Ar ôl cael cymorth arbenigol gan ei chynghorydd busnes roedd Hannah Roose yn gallu dechrau ei busnes ei hun, The Virtual Assistant Experience, ac ers dechrau, mae wedi profi datblygiad a thwf sylweddol.  

Mae Hannah wedi parhau i elwa ar gymorth, gan gynnwys cyngor ar gynnwys gwefan newydd a datblygu busnes. 

Mae hi hefyd wedi cael ei chyfeirio at ymgynghorydd Adnoddau Dynol Busnes Cymru sydd wedi cynnig gwybodaeth allweddol iddi ynghylch cyfraith cyflogaeth a recriwtio er mwyn sicrhau bod staff wedi'u cyflogi'n unol â gofynion cyfreithiol. 

Mae Hannah hefyd wedi cyflwyno polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth newydd a hysbysiad preifatrwydd GDPR o fewn ei busnes er mwyn gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae busnes Hannah yn parhau i ddatblygu ac mae hi bellach yn gweithio gyda gweithwyr llawrydd a chleientiaid ledled y byd. Mae hi hefyd newydd ennill Gwobr Seren y Dyfodol yng Nghyfres Genedlaethol Gwobrau Cychwyn Busnes – llongyfarchiadau!

Cysylltwch â ni heddiw a gallwn deilwra ein cefnogaeth er mwyn eich helpu gyda'ch anghenion busnes penodol.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.