Gydag arweiniad fy mentor, mae gennyf bellach ystafell arddangos wrth ymyl fy ngweithdy. Mae ei chefnogaeth gyfeillgar a phroffesiynol wedi bod yn amhrisiadwy.
Mae Vicky Ware o Vicky Ware Ceramics yn gwneud cerameg rystig, gyfoes, trwy dechnegau adeiladu llaw syml. Mae hi’n defnyddio cleiau crochenwaith grog, sy’n cynnwys clai gwyllt o’i chaeau ei hun.
Roedd y busnes yn brin o dwf, gyda Vicky yn ei chael hi’n anodd jyglo rhwng rhedeg ei siop fach yn y dref leol a chreu’r cerameg mewn gweithdy 7 milltir i ffwrdd.
Diolch i’r gefnogaeth ac anogaeth mae Vicky wedi’u cael gan ei mentor busnes, mae ganddi bellach stiwdio amlddefnydd ym Mynyddoedd Cambria. Mae'r ystafell arddangos newydd bellach wrth ymyl ei gweithdy ac mae'n caniatáu i ymwelwyr weld y serameg gyfoes, tra bod Vicky yn dal i allu dylunio a gwneud y crochenwaith yn gyfleus.
Yn ogystal â sefydlu’r stiwdio newydd, mae awgrymiadau mentor Vicky wedi ei hannog i wella marchnata’r busnes, ei rheoli amser, cydbwysedd gwaith/bywyd, wedi torri costau diangen, ac yn bennaf oll, wedi caniatáu i’r busnes dyfu i’r cyfeiriad cywir.
Ydych chi eisiau i'ch busnes dyfu neu eisiau gweithredu newid? Cysylltwch i weld sut y gallwn eich helpu.