BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Warehaus Signs

Warehaus Signs

Dechrau llwyddiannus a 2 o swyddi newydd wedi'u creu i gwmni arwyddion yng ngogledd Cymru.

Lansiwyd y cwmni arwyddion a digwyddiadau, Warehaus Signs, wedi'i leoli yng ngogledd Cymru gan frawd a chwaer, Tashka a Krystn Yeomans, yn 2019 gyda'r syniad o gyfuno eu sgiliau artistig ac ymarferol a chynnig ystod o ddatrysiadau arwyddion i'w cwsmeriaid. Cefnogwyd hwy gan wasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru i ddechrau'r busnes ac maent eisoes yn adeiladu enw da i'w brand yn yr ardal leol.

  • dechrau llwyddiannus
  • 2 swydd lawn amser
  • cefnogaeth cynghori a gweithdai
  • cyllid

Cyflwyniad i'r busnes

Busnes arwyddion a digwyddiadau teuluol, wedi'i leoli ym Mochdre yw Warehaus Signs, a sefydlwyd gan frawd a chwaer, Tashka a Krystn Yeomans, gan roi gwedd fodern ar bob agwedd ar waith finyl, yn cynnwys arwyddion siopau a dyluniadau ar ochr faniau, ymhlith eraill.

Gan arbenigo mewn creu arwyddion unigryw i gwsmeriaid corfforaethol a chyhoeddus, penderfynodd Tasha, y dylunydd a Krystn, y gwneuthurwr gyfuno ei brwdfrydedd dros ddylunio a'i sgiliau ymarferol i lansio Warehaus Signs. Mae'r cwmni yn cynnig pob agwedd ar waith finyl, ysgythru ar ffenestri, dyluniadau ar ochr ceir a faniau, byrddau siglo, arwyddion ar balmentydd, blychau golau yn ogystal â darnau unigryw.

Pam oeddech chi eisiau dechrau busnes eich hun?

Nid oedd gennyf erioed ddyhead i ddechrau fy musnes fy hun. Astudiais gwrs Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Bangor ac es ymlaen i ennill gradd mewn Celf Gain o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Tra yn fy mlwyddyn olaf, bu farw fy mam yn sydyn, ac roedd rhaid i mi ddod adref i ofalu am fy 3 brawd a chwaer iau. Bryd hynny, y sylweddolais nad oedd yna fawr ddim, os o gwbl, o gyfleoedd i gael swydd gyda fy ngradd o fewn yr ardal. 

Mae fy mrawd iau, Krystn, a minnau, bob amser wedi bod yn dîm da; rwyf bob amser wedi meddwl am ddyluniadau i eitemau ac mae ef bob amser wedi dod o hyd i ffyrdd o'u creu, gan ddechrau gydag eitemau o amgylch ein tŷ ein hunain cyn symud ymlaen i dai ffrindiau ac aelodau o'n teulu, etc. 

Cysylltodd cwmni o'r enw SU CASA â ni, a oedd eisiau i ni ddylunio a chynhyrchu setiau ac addurniadau ar gyfer eu gŵyl a gynhaliwyd am y tro cyntaf yng Nghonwy, lle'r ydym yn byw, yna yn Surf Snowdonia a Chastell Bodelwyddan. Roeddem wrth ein bodd â phob agwedd ar y broses; rhyngom, gwnaethom sylwi y gallem wneud unrhyw beth bron, a'i wneud yn dda, ond nid oedd gennym erioed yr hyder i fynd ag ef ymhellach. Felly, es yn ôl i'r gwaith, ac aeth fy mrawd i'r brifysgol.

Oddeutu blwyddyn yn ddiweddarach, es i'n feichiog a chefais fy mabi cyntaf fis Awst diwethaf. Tua'r un adeg, gorffennodd Krystn ei radd ym Mangor ac roedd yn chwilio am swyddi yn ei faes - ond unwaith eto, nid oedd yna lawer o gyfleoedd. Nid oes llawer o bobl yn gwybod bod Krystn yn awtistig mewn gwirionedd ac nid yw erioed wedi bod yn dda am gymdeithasu, felly mae dod o hyd i swydd sy'n gweddu iddo wastad wedi bod bron yn amhosibl gan ei fod yn ei chael yn anodd siarad â phobl newydd. 

Felly, bryd hynny, y gwnaethom ddechrau meddwl o ddifrif am beth oeddem eisiau ei wneud o ran gyrfa. Roeddwn yn creu eitemau unigryw ar gyfer meithrinfa fy hogyn bach, ac ymddangosai fod pawb yn eu canmol, ac yn fuan iawn roedd gennyf restr o bobl a oedd eisiau eitemau unigryw wedi'u creu ar gyfer eu plant eu hunain.

Gan fod fy mam wedi gadael ychydig o arian i ni, penderfynom os oeddem am roi cynnig ar sefydlu busnes, ei bod hi'n fater o nawr neu fyth. Roeddwn ar gyfnod mamolaeth, felly roedd gennyf amser i'w neilltuo ar gyfer dechrau'r busnes.

Pa heriau a wyneboch?

Gwnaethom wynebu sawl her o'r cychwyn cyntaf. I ddechrau, nid oedd yr un ohonom erioed wedi astudio busnes neu'n gwybod beth yn union a olygai. Nid oedd gennym syniad, yn y bôn, beth oeddem yn ei wneud a beth oeddem eisiau ei gyflawni.

Ar y pryd, roeddem yn credu mai'r peth gorau i ni oedd cael gweithdy yn syth, fel y gallem ddechrau creu'r eitemau, ond cymerodd fwy o amser i ni ei wneud yn drigiadwy, ac roeddem yn gwario arian ar rywbeth nad oeddem yn ei ddefnyddio.

Problem fawr arall a wynebom ar y dechrau oedd y gallem, i bob pwrpas, greu unrhyw beth, ac roeddem yn ei chael yn anodd dod o hyd i gyfeiriad clir ar gyfer y busnes. Dechreuom drwy gynnal digwyddiadau megis partïon bwmp a phriodasau, ond gwnaethom sylwi nad oeddem yn gwneud unrhyw arian yn ystod yr wythnos.

Mae'r ddau ohonom yn cael trafferth gyda rheoli amser a threfnu, sy'n sgiliau hanfodol ar gyfer rhedeg busnes. Yn ogystal, un rhwystr arall ar y daith oedd pan dorrais fy ffêr ddechrau mis Mehefin, ac roeddwn yn dda i ddim am amser hir - 10 wythnos mewn plaster, dwy lawdriniaeth a gwerth misoedd o ffisiotherapi, ac rwy'n dal i gael trafferth gyda hi hyd heddiw.

Ond yr hyn a gefais fwyaf o drafferth ag ef, oedd fy hyder. Nid oeddwn yn credu y gallem sefydlu ein busnes ein hunain, nid oeddwn yn credu bod ein cynnyrch werth dim, ac nid oedd gennyf yr hyder yn fy ngallu fy hun. Treuliais fisoedd yn amau popeth a wnaethom, ac roeddwn yn aml yn teimlo fel rhoi'r ffidl yn y to.

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd Tasha a Krystn â Busnes Cymru, gan nad oedd ganddynt yr hyder na'r sgiliau i ddechrau a rhedeg eu busnes eu hunain. Yn dilyn mynychu gweithdy dechrau busnes, cawsant gymorth gan gynghorydd busnes a gynorthwyodd gyda chynllunio busnes, rhagolygu ariannol, cofrestru busnes a strwythur cyfreithiol.

Diolch i'r cymorth, llwyddodd Tashka a Krystn i sicrhau cyllid gan y Lwfans Menter Newydd a'r Awdurdod Lleol i lansio'r busnes yn llwyddiannus, creu 2 o swyddi newydd a datblygu rhwydweithiau a chyfleoedd newydd i'r busnes.

Canlyniadau

  • sefydlu
  • 2 swydd lawn amser
  • sicrhau cyllid ar gyfer datblygu sgiliau a chostau cychwynnol

Ein brawd ieuengaf oedd y cyntaf i fynychu cwrs Busnes Cymru ac argymhellodd Lowri (Roberts) (ein cynghorydd) i ni. Roeddem wedi bod ar gwrs arall gan ddarparwr yn Lerpwl, a barodd 3 diwrnod, ac er ein bod wedi mwynhau'r sesiynau, ni chawsom fawr ddim allan ohonynt, gan nad oedd unrhyw gymorth dilynol.

Yn bersonol, roeddwn yn teimlo bod cyflwyniadau Lowri i gyd yn hawdd i'w dilyn, yn llawn gwybodaeth ac yn ddi-flewyn ar dafod. Mae hi'n dda iawn wrth ei gwaith, ac rwyf bob amser yn teimlo'n fwy hyderus a gwybodus ar ôl bob cyfarfod â hi.

Yn ogystal, drwy gael cyswllt rheolaidd a chyfarfodydd arweiniol â Lowri, mae hi wedi galluogi i'n busnes dyfu. Mae hi wedi ein helpu gyda heriau a phroblemau sydd wedi codi, ein cyflwyno i gysylltiadau newydd sydd wedi ein helpu gyda denu sylw i'n busnes ond yn bwysicach, mae hi wedi ein helpu i adeiladu ein hyder drwy fod yn wyneb amyneddgar, cefnogol a chyfeillgar pan oeddem ei angen.

Gallaf ddweud â'm llaw ar fy nghalon, na fyddem wedi cyrraedd lle'r ydym heddiw, oni bai am gefnogaeth Lowri, a chymorth Busnes Cymru. 

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Rydym yn falch o sut mae ein busnes wedi datblygu dros y 6 mis diwethaf, ac yn hapus dros ben i allu gwneud yr hyn yr ydym yn ei garu bob dydd.

Ein gweledigaeth ar gyfer Warehaus Signs, yw ennill enw da proffesiynol o fewn ein diwydiant. Er mwyn gwneud hyn, ein cynllun yw parhau i ddatblygu fel dylunwyr, gwneuthurwyr a pherchnogion busnes i sicrhau y gallwn ddarparu cynnyrch a gwasanaethau o'r safon orau i'n cleientiaid.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.