Mae gwasanaeth golchi dillad casglu a danfon blaengar yn ymrwymo i fod yn fusnes cwbl ddi-garbon a di-wastraff, gyda chymorth arbenigwr cynaliadwyedd Busnes Cymru.
Wedi'i sefydlu a'i redeg gan Jonathan Day, mae Wash Cycle yn wasanaeth golchi dillad casglu a danfon ecogyfeillgar. Cysylltodd Jonathan â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i holi am gymorth cynaliadwyedd pellach. O ganlyniad, fe ymunodd â'r Adduned Twf Gwyrdd ac mae wedi ymrwymo i ailddefnyddio gwastraff, lleihau allyriadau carbon, defnyddio deunyddiau crai ecogyfeillgar a gofalu am y gymuned leol, ymhlith pethau eraill.
Cyflwyniad i’r busnes
Sefydlodd Jonathan Day, o Gaerdydd, Wash Cycle Ltd yn 2017 i ddarparu gwasanaeth golchi dillad casglu a danfon ecogyfeillgar. Mae'r busnes yn cynnig dewis arall dibynadwy, cyfleus a diogel yn lle mynd i olchdy lleol.
Gan gyfuno gwasanaeth yr un diwrnod o ansawdd uchel, gydag arferion cynaliadwy a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, mae Wash Cycle wedi ymrwymo i ffynonellu'r holl ddeunyddiau crai o fusnesau cynaliadwy o'r un anian, a thrwy hynny leihau'r defnydd o blastig, gan leihau eu heffaith ar y system ddŵr trwy lanedyddion glanach, gan wrthbwyso eu hallyriadau carbon a chynhyrchu bron i ddim gwastraff yn eu gwaith bob dydd.
Cawsom sgwrs gyda Jonathan i holi ei farn ynglŷn â phwysigrwydd cynaliadwyedd mewn busnes:
Pam bod cynaliadwyedd yn bwysig i chi a’ch busnes?
Wedi tyfu i fyny yn gwylio David Attenborough, bu gen i wastad ddiddordeb mawr yn ein byd prydferth a'r amrywiaeth eang o fywyd y mae'r ddaear yn ei chefnogi. Fodd bynnag, wrth imi dyfu, rwyf hefyd wedi dechrau talu mwy a mwy o sylw i'r difrod rydyn ni fel bodau dynol yn ei wneud i'n byd, a hynny’n arswydus o gyflym.
Ar yr un pryd, rwy’n wastad wedi bod yn frwdfrydig iawn dros fusnes ac arloesi, gyda'r nod o roi ysgytwad i’r ffordd rydyn ni'n byw ein bywydau er gwell. A dweud y gwir, wnes i erioed fwynhau golchi dillad wrth dyfu i fyny. Hyd yn oed pan gychwynnais yn y brifysgol, roeddwn i’n dal i ddibynnu ar fy ffrindiau hael yn y neuadd breswyl. Dyna'n union pam y meddyliais y gallai gwasanaeth oedd yn cynnig golchi eich dillad i chi, am ddim llawer mwy na'r gost o’u golchi nhw eich hun, fod yn chwyldroadol.
Yn anffodus, tua'r un adeg, roedd yn ymddangos bod gan bobl eraill syniadau tebyg, gydag un neu ddau o wasanaethau golchi dillad yn ymddangos yn Llundain, er nad oedden nhw’n hyrwyddo technegau cynaliadwy mewn gwirionedd. Felly, fy nghenhadaeth i yw creu gwasanaeth golchi dillad cwbl ddi-garbon, di-wastraff wrth gynnal prisiau cystadleuol, gan sicrhau mai Wash Cycle yw'r opsiwn y mae'r Deyrnas Unedig yn ei ddewis. Fel hyn, gallwn droi gorchwyl a diwydiant sy’n eitha’ llygrol fel arfer yn weithgaredd cadarnhaol i'n hamgylchedd.
Mae golchi dillad yn orchwyl hanfodol na all unrhyw un ei osgoi, felly ymunwch â ni i wneud y gorchwyl hwnnw yn rhywbeth gwirioneddol gadarnhaol.
Beth fyddech yn ei ddweud wrth fusnesau eraill nad ydynt yn ymwybodol o fanteision bod yn gynaliadwy?
Dim ond un blaned sydd gennyn ni. Mae mor syml â hynny. Rydyn ni fel cynhyrchwyr a darparwyr nwyddau a gwasanaethau yn cael effaith uniongyrchol ar y modd y mae defnyddwyr yn defnyddio’r hyn yr ydyn ni’n ei gynhyrchu a’i wneud.
Trwy ymdrech ar y cyd i wneud newidiadau ein hunain ac addysgu’n cwsmeriaid ar sut y gallan nhw hefyd wneud gwahaniaeth, byddwn ni i gyd ar ein hennill.
Mae’n amser i ni dderbyn cyfrifoldeb dros y cylchoedd bywyd cynnyrch a gwasanaeth llawn rydyn ni’n eu creu, gan gynnwys sut maen nhw’n cael eu gwaredu. Felly cysylltwch â’ch tîm cynaliadwyedd lleol ac ewch ati i wneud cynllun!
Cymorth Busnes Cymru
Cysylltodd Jonathan â chynghorydd Cynaliadwyedd Busnes Cymru, Paul Carroll, i wella mwy ar berfformiad cynaliadwyedd y busnes. Fel rhan o’r cymorth, ymunodd ag Adduned Twf Gwyrdd Busnes Cymru, sef menter sy’n darparu ffordd rwydd a syml i fusnesau gynllunio a gweithredu ystod o fesurau cynaliadwyedd.
Dyma rai o’r camau y mae Wash Cycle wedi ymrwymo i’w gweithredu:
- Prynu offer ynni-effeithlon a defnyddio prosesau sychu arbed ynni i leihau allyriadau carbon ac arbed ar filiau ynni.
- Gweithio gyda chyflenwyr lleol cyfrifol i ddod o hyd i gynhyrchion golchi dillad ecogyfeillgar.
- Lleihau allyriadau carbon o drafnidiaeth trwy gynllunio a rheoli teithiau casglu a danfon.
- Plannu wyth coeden y mis i wrthbwyso eu hôl troed carbon.
- Defnyddio poteli cwbl ailgylchadwy a chwilio am wasanaeth ail-lenwi gan gyflenwyr lleol er mwyn osgoi taflu plastigau i safleoedd tirlenwi.
- Ailddefnyddio cynhyrchion gwastraff trwy roi lint golchi dillad i adaryddion ei ddefnyddio fel gwelltach i adar.
- Codi ymwybyddiaeth ymysg cleientiaid o fanteision cynaliadwyedd.
- Ymgysylltu ag elusennau lleol i ddarparu gwasanaethau golchi dillad am bris gostyngedig i'r gymuned.
Mae Paul hefyd yn helpu Jonathan i ddod o hyd i wneuthurwr yn y DU a all wneud bagiau golchi dillad y gellir eu hailddefnyddio o ddeunyddiau cynaliadwy, fel pebyll a fyddai fel arall yn cael eu taflu i safle tirlenwi.
Meddai Jonathan: “Mae Paul wedi bod yn wych yn ein helpu ni i gysylltu â darpar gyflenwyr lleol newydd gyda nodau cynaliadwyedd tebyg i ni. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pob cam o’n cylch gwasanaeth yn cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau.
Mae’r ffaith fod Paul wedi sôn amdanon ni wrth y bobl iawn wedi bod yn hwb hefyd.”
Cynlluniau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol
Ein bwriad yw bod yn ddi-garbon. Bydd hyn cael ei gyflawni trwy seilwaith trafnidiaeth a pheiriannau cynyddol effeithlon wrth i ni dyfu, fel beiciau a faniau trydan, ynghyd â chynyddu ein buddsoddiad mewn ailgoedwigo trwy bartneriaeth ag Ecologi – gan blannu wyth coeden bob mis i bob gweithiwr. Byddwn hefyd yn parhau i weithio tuag at ardystiad di-wastraff.
Yn y dyfodol, rwy'n bwriadu rhyddfreinio ac ehangu Wash Cycle ledled Cymru a Lloegr. Cael gwared ar ddiflastod golchi dillad i bawb wrth wneud gwahaniaeth sylweddol i'r ôl troed carbon a'r difrod i systemau dŵr y DU yn sgil golchi dillad.
I ddarllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter