BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Wholehearted

Wholehearted

Cwmni llaeth cnau a sudd organig a phur, wedi ei wasgu'n oer yw Wholehearted, sy'n danfon nwyddau yn ffres ac yn syth bin i'ch stepen drws. Creodd Sophie Jones a'i gŵr y busnes gyda'r nod o gynhyrchu a danfon cynnyrch a all helpu pobl i wella eu hiechyd, ac yn ei dro, eu bywydau.

Dywed Sophie: "Rydym yn credu'n gryf ym mhŵer planhigion organig. Roeddem eisiau pasio'r holl faetholion ac ensymau gwerthfawr sydd gan ein cynnyrch 100% organig i'w cynnig i'n cwsmeriaid, gan roi iddynt y buddion iechyd mwyaf posibl. Dyma pam, y dewisom ddull echdynnu sudd wedi ei wasgu'n oer. Ni ddefnyddir gwres yn ystod y broses gynhyrchu gan sicrhau na effeithir ar y maetholion, y mwynau na'r ensymau. Erbyn hyn, mae gennym ddau aelod o staff yn gweithio i ni (sy'n cyfrannu at y gwaith o gynhyrchu a danfon y sudd) yn ogystal â mi a fy ngŵr."

Beth ddaru nhw

"Ar ôl treulio amser yn Los Angeles a phrofi pa mor hawdd oedd cael gafael ar sudd wedi ei wasgu'n oer a'r buddion iechyd sydd ganddo i'w gynnig, roeddem yn gwybod ei fod yn rhywbeth yr oeddem eisiau ei roi i'r bobl hynny o'n hamgylch yn ôl adref, iddynt ei brofi hefyd. Wedi bod allan o waith am nifer o flynyddoedd yn fam llawn amser, a gyda fy ngŵr yn gweithio yn y diwydiant adeiladu ar y pryd, roedd yn sicr yn gam brawychus i'w gymryd.

Penderfynom drawsnewid ein garej yn ffatri fach, buddsoddi mewn peiriant i gynhyrchu sudd wedi ei wasgu'n oer a gweithio ochr yn ochr â dylunydd graffeg i greu ein brand ein hunain. Cefais fy nghyflwyno i Busnes Cymru gan ffrind, a gwnaethant roi'r hyder a'r arfau yr oedd eu hangen arnom i symud ymlaen. Cwblheais gwrs cychwyn busnes yn Abertawe a agorodd y drws i sawl ffynhonnell o gymorth, yr ydym yn parhau i elwa ohonynt."

Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol

"Nid wyf yn rhy siŵr a fyddwn wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol, gan fod y cwmni wedi tyfu mewn ffordd naturiol ac organig iawn. Er mae yna rai elfennau yr oeddem yn credu y byddent yn allweddol ar y dechrau, er enghraifft, ein wagen geffylau a drawsnewidiom yn far sudd, nad ydynt erbyn hyn yn gweithio cystal i ni a'n sefyllfa deuluol, ag y mae ein gwasanaeth dosbarthu i'r cartref. Wrth edrych yn ôl, efallai na fyddem wedi trawsnewid y wagen geffylau, fodd bynnag, rydym wedi gwneud elw ar y trawsnewidiad y byddwn yn ei roi yn ôl i mewn i Wholehearted pan fyddwn yn ei gwerthu."

Eu adeg mwyaf balch mewn busnes

"Rydym wedi cael nifer o adegau balch: gweld ein logo a'n poteli am y tro cyntaf, y diwrnod cyntaf o ddanfon nwyddau, pan gawsom ein sgôr pum seren...ond rwy'n credu mai'r hyn sydd wedi fy ngwneud fwyaf balch yw clywed sylwadau ein cwsmeriaid ynglŷn â sut mae ein sudd wedi eu helpu cymaint, a sut y maent yn teimlo'n well ar ôl ei yfed. Gwella iechyd pobl yw ein prif flaenoriaeth, ac mae'n gwneud yr holl waith caled yn werth chweil.”

Ydynt yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu busnes? 

"Rwy'n siaradwr Cymraeg rhugl, er nad wyf wedi defnyddio'r Gymraeg yn y busnes eto"

Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru

Yn dilyn mynychu gweithdy ar ddechrau a rhedeg busnes gan Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru, derbyniodd Sophie gymorth pellach gan gynghorydd, Shahid Islam, a roddodd gyngor ac arweiniad iddi gyda nifer o faterion cyffredin cyn ac ar ôl dechrau busnes, gan gynnwys cynllunio busnes, rhagolygon ariannol ac yswiriant busnes.

Galluogodd cymorth Shahid i Sophie lansio Wholehearted Organic Health yn llwyddiannus ac yn dilyn cyngor pellach ar y broses recriwtio a dethol, roedd hi'n gallu cyflogi 2 o weithwyr.

O ganlyniad i dwf cyflym y busnes, archwiliodd Shahid ffynonellau cyllid posibl i helpu i gynyddu capasiti o fewn y busnes, gan roi help llaw i Sophie wrth iddi ymgeisio'n llwyddiannus am fenthyciad cychwyn busnes gwerth £25,000.

Dywedodd Sophie: "Gwnaeth Busnes Cymru i mi deimlo bod gennyf gefnogaeth gyda fy menter busnes newydd. Roeddent yn realistig, gonest ac yn galonogol yn fwy na dim. Gwnaethant roi hyder i mi yn yr hyn a oedd yn faes newydd, brawychus."

Cyngor Dda

Dyma awgrymiadau ardderchog Wholehearted Organic Health ar gyfer unrhyw un arall sy'n dymuno dechrau neu dyfu eu busnes eu hunain:

  • nid yw popeth yn rhedeg yn esmwyth, mae'n anochel y bydd rhwystrau ar hyd y ffordd, mae popeth yn ymwneud â sut ydych yn delio â phethau ac yn eu cywiro pan fydd pethau'n mynd o'i le
  • peidiwch â bod yn rhy galed arnoch chi'ch hun, gadewch i eraill eich helpu lle y gallant, mae bywyd yn un wers barhaus, yn union fel busnes
  • byddwch yn angerddol, mae'n rhaid i chi roi popeth sydd gennych a chredu yn eich busnes a'i bwrpas

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.