BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Workplace-Worksafe Ltd

Workplace Worksafe

A hithau'n cael ei chydnabod yn un o'r 100 entrepreneur benywaidd gorau yn y DU yn ystod pandemig Covid-19, mae Rhian Parry o Ruthun wedi llwyddo i dyfu ei busnes iechyd a diogelwch arbenigol flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Cyflwyniad i'r busnes

Mae Workplace-Worksafe Ltd., a gafodd ei sefydlu gan Rhian Parry, yn brif gyflenwr cyfarpar diogelu personol i'r gweithle, dillad gwaith â brand a gwisg gorfforaethol, yn ogystal â gwasanaeth caffael yn benodol i safle ac eitemau ar gyfer cwmnïau o'r radd flaenaf. Gyda chynnig o fwy na 250,000 o gynhyrchion, Workplace-Worksafe yw dosbarthwr annibynnol mwyaf y DU o ddillad gwaith Mascot, ymhlith ystod eang o frandiau eraill, ac mae'n gwasanaethu'r sectorau adeiladwaith a pheirianneg ledled y DU ac Ewrop, yn ogystal ag unigolion a'r sector cyhoeddus.

Ochr yn ochr â Workplace-Worksafe, mae Rhian hefyd yn rhedeg busnes llwyddiannus, Windfarm Workwear, yn darparu cynhyrchion arbenigol i'r sector ynni gwynt.

Ers cysylltu â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn 2017, mae'r busnes wedi bod yn gweithio gyda chynghorydd tendro arbenigol ac wedi llwyddo i:

  • Ehangu drwy greu 4 swydd newydd a diogelu dwy swydd sydd eisoes yn bodoli.
  • Sicrhau gwerth £200,000 o gontractau newydd gyda chleientiaid yn y sector preifat yn ogystal â fframweithiau'r sector cyhoeddus.

Dyma ragor ynghylch taith fusnes Rhian a'r heriau y mae wedi'u hwynebu ar hyd y ffordd:

Pam wnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Sefydlais Workplace-Worksafe yn 2005. Rwyf wrth fy modd yn datrys heriau, ac rwy'n eithaf da am wneud hynny hefyd. Yn y sector Iechyd a Diogelwch, mae gofynion pob cwsmer yn wahanol: efallai y bydd gennych yr un broblem ond heriau a chyfyngiadau gwahanol. Y peth gorau am fy swydd i yw fy mod yn cael dysgu pethau newydd bob dydd ynghylch yr heriau mae ein cwsmeriaid yn eu hwynebu.

Yn ôl yn 2005, roeddwn wedi bod yn y diwydiant ers pum mlynedd a chydnabûm fod bwlch am fusnes sy'n rhagori mewn gwasanaeth cwsmeriaid ac sy'n gallu dod o hyd i'r cynnyrch Iechyd a Diogelwch cywir i'r cwsmer.

Nid oedd angen buddsoddiad enfawr i sefydlu'r busnes: gyda chyfrifiadur gwerth £200, peiriant ffacs a bwrdd bwyd, llwyddais i sefydlu'r cwmni a dechrau gwneud galwadau i fusnesau ledled y DU a ddaeth yn gwsmeriaid ffyddlon i mi yn fuan wedyn.  

Rwyf wedi bod yn y diwydiant ers dros 20 mlynedd bellach! Mae gennyf gymhwyster NEBOSH ac rwy'n aelod o IOSH. Mae'r cwmni yn Gyflenwr Diogelwch cofrestredig gyda Ffederasiwn Diwydiant Diogelwch Prydain ac yn aelod o Gymdeithas Peirianwyr Cyfarpar Codi.

Pa heriau a wyneboch?

Mae yna heriau bob tro wrth i chi ddechrau busnes. Petai llawlyfr dechrau busnes yn bodoli a fyddai'n rhoi cipolwg i chi ar yr holl risgiau posibl mae perchnogion busnesau mentrau bach a chanolig yn eu hwynebu, byddai'n gwerthu'n gyflym. Yn gynnar yn y broses, dysgais fod y rhan fwyaf o gwmnïau yn wynebu heriau tebyg: rheoli llif arian, cyfeiriad, cyflogeion a chwsmeriaid. 

Yn entrepreneur, byddwch yn wynebu sawl her; mae'n allweddol eich bod yn dysgu o'ch methiannau ac yn gwybod efallai fod angen cymryd agwedd neu gyfeiriad gwahanol y tro nesaf.

Roedd cael fy nghydnabod yn un o'r 100 o Ferched mwyaf Ysbrydoledig mewn Busnes yn anrhydedd o'r mwyaf i'm tîm a minnau, gan fy mod yn un o'r merched prin sy'n rhedeg cwmni Iechyd a Diogelwch yn y DU. Dynion sy'n dominyddu'r diwydiant yn bennaf.

Serch hynny, rwy'n credu os ydych eisiau llwyddo, bydd cyfnodau lle byddwch yn teimlo'n anghyfforddus, ac efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod yn mynd i ddyfnderoedd dyfnion, ond rhaid i chi wthio eich hun i wneud pethau sydd ddim yn dod yn rhwydd i chi. Rwy'n swil iawn, felly mae cnocio ar ddrysau neu wneud galwadau yn anodd, ond rwy'n dal i'w wneud - gall y canlyniadau fod yn rhyfeddol weithiau. 

Y newydd da yw bod y nifer o ferched mewn swyddi peirianneg proffesiynol wedi dyblu bron ers i mi ddechrau'r busnes, ac mae mwy a mwy o ferched yn mynd i'r sector ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
Yn unigolyn sy'n dylunio ac yn dyfeisio cynhyrchion i ffermydd gwynt, nid oedd gennyf gysylltiadau o fewn diwydiant arbenigol iawn ar y dechrau a allai fy nghynorthwyo i ddod o hyd i bartneriaid neu gwmnïau a allai weithio gyda mi i gyflwyno fy syniadau i'r farchnad ac yn bwysicach fyth, fy nghynorthwyo i warchod fy hawliau cyfalaf deallusol a dylunio. Gyda chymorth gan Busnes Cymru, gwn nawr lle i fynd a sut i wneud y pethau pwysig hyn fy hun.

Mae un peth arall yr wyf wedi'i ddysgu wrth i mi dyfu'r busnes yn ymwneud â gwneud camgymeriadau. Rwyf wedi gwneud rhai camgymeriadau mawrion a rhai camgymeriadau bychain ar hyd y ffordd: y peth pwysig yw cael y gallu a'r gwytnwch i godi eto a dal ati - mae hynny'n allweddol i redeg cwmni llwyddiannus.

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd Rhian â Busnes Cymru yn 2017 am gymorth gyda thwf a chefnogaeth i gyflwyno tendrau. Gweithiodd gyda chynghorydd tendro arbenigol, Guto Carrod, a gynorthwyodd y busnes i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth ofynnol i ysgrifennu tendrau llwyddiannus.

Gyda chymorth ac arweiniad Guto, llwyddodd Workplace-Worksafe i ennill llefydd ar gontractau llwyddiannus ar gyfer cyfarpar diogelu personol a dillad gwaith, ond hefyd sicrhau llefydd ar fframweithiau'r sector cyhoeddus, gan gynyddu trosiant, creu swyddi newydd a diogelu swyddi sy'n bodoli eisoes.

Canlyniadau

  • Ehangu drwy greu 4 swydd newydd a diogelu dwy rôl sydd eisoes yn bodoli
  • Sicrhau gwerth £200,000 o gontractau newydd gyda chleientiaid yn y sector preifat yn ogystal â fframweithiau'r sector cyhoeddus

"Mae'r cyfraniad mae Busnes Cymru a Guto wedi'i wneud at fy musnes wedi bod yn amhrisiadwy. Rwyf wedi gallu gofyn am gyngor a chymorth ar wahanol brosiectau a thendrau. Gyda chymorth Guto, rydym wedi ennill tendrau mawrion, a byddwn yn parhau i ofyn am gymorth yn y rhai nesaf. Mae Guto wedi bod yn ased amhrisiadwy i ni wrth gwblhau tendrau neu pan fydd angen unrhyw gyngor arall arnom."

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yw twf a swyddi ychwanegol i'r ardal. Rydym yn gweithio ar sawl peth, rwy'n credu bod rhaid i chi ddatblygu fel busnes ac amrywio dros amser i gadw'ch cwsmeriaid yn hapus yn ogystal ag addasu i'r farchnad newidiol.

Bydd 2021 yn gyfnod cyffrous i'n busnes. Mae ein cynlluniau'n cynnwys:

  • Ehangu ein busnes Windfarm Worksafe yn rhyngwladol. Yn ddiweddar gwnaethom gyflogi dau unigolyn: Rheolwr Busnes Rhyngwladol a Rheolwr Marchnata i'n cynorthwyo ni i dyfu a symud i farchnadoedd tramor newydd gyda'n hystod cynnyrch i ffermydd gwynt.
  • Antur menter gymdeithasol gyffrous, yn cynorthwyo oedolion o wahanol gefndiroedd i'r gymuned waith, er enghraifft, oedolion sydd â niwroamrywiaeth a chyn-filwyr, ymhlith eraill.
  • Ac yn olaf, rydym yn awyddus i ddod o hyd i gwmni arall a'i brynu o bosibl, a gall hynny ategu at ein tîm a'n cynlluniau twf i'r dyfodol. 

Byddai pythefnos o wyliau yn braf hefyd! ?

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.