BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Wrexham Chauffeurs Ltd

Wrexham Chauffeurs Ltd

Mae’r cymorth rwyf wedi’i gael gan Busnes Cymru wedi fy ngalluogi i fuddsoddi mewn cerbyd newydd i’w ychwanegu at fy fflyd, creu swydd newydd ar gyfer uwch chauffeur, a oedd yn rhoi mwy o amser i mi ganolbwyntio ar dyfu’r busnes, a symud ymlaen.

Mae ein hymgynghorwyr wedi cynnig pecyn cymorth eang i Wrexham Chauffeurs Ltd, gwasanaeth chauffeur moethus, 24 awr.

Sefydlodd Geth Thomas Wrexham Chauffeurs Ltd yn wreiddiol ym mis Gorffennaf 2019, ar ôl blynyddoedd o brofiad yn y diwydiant hurio preifat. 

Trafodwyd sawl agwedd ar y busnes yn ystod eu sesiwn cyngor busnes un-i-un, fel twf y busnes, cyflogi rhagor o staff, ac ymgymryd â’r Addewid Twf Gwyrdd. Mae Wrexham Chauffeurs Ltd bellach wedi ymrwymo i reolaeth amgylcheddol gadarnhaol. Maent hefyd wedi datblygu polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth, gan gynnig gwasanaeth cynhwysol i gwsmeriaid a chleientiaid. 

Rydym ar ben ein digon o glywed bod Wrexham Chauffeurs Ltd, ynghyd â chymorth ymgynghorydd busnes Geth, wedi llwyddo i dreblu eu helw erbyn eu 3edd flwyddyn.  

Os ydych chi’n dymuno gwneud newidiadau cadarnhaol i wella eich busnes, cysylltwch â ni heddiw.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.