BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Xanthe Anna

Xanthe Anna

Rwy’n ddiolchgar iawn o’r cymorth a gefais gan Fusnes Cymru.  Rwy’n lwcus fy mod yn byw yng Nghymru a bod gen i fynediad i’r gwasanaeth hwn.

Mae Xanthe Anna  yn gwmni annibynnol  bychan sy’n dylunio a chreu esgidiau croen dafad gan ddefnyddio deunyddiau effaith isel a naturiol.  Ar ôl blynyddoedd o gyfuno profiad o wnïo, bod yn berchen ar braidd o ddefaid ar fferm fechan yng Nghymru a bod yn frwd ynghylch ffasiwn sydd wedi eu gwneud yn foesol, lansiiwyd y busnes gan y sylfaenydd,  Xanthe Dewsnap,  yn Nhachwedd 2021.

Mae  Xanthe wedi mynychu ystod o weminarau i baratoi ar gyfer dechrau rhedeg ei busnes, megis ‘Rheoli eich Busnes yn llwyddiannus’ a ‘Rheoli eich Arian’. Mae hi wedi derbyn pecyn cymorth eang gan ei ymgynghorydd busnes, oedd yn mynd i’r afael â thestunau ynghylch busnes a chynllunio ariannol ac ymchwil i’r farchnad, sydd wedi rhoi ffocws clir i Xanthe ar sut i lwyddo a ffynnu.  Rhoddodd y cyngor a gafodd y wybodaeth iddi ddechrau a rhedeg ei busnes yn hyderus.

Mae ymgynghorydd Xanthe wedi darparu cymorth un i un hefyd er mwyn datblygu  Addewid Twf Gwyrdd, gan ganolbwyntio ar ddiwedd bywyd, effaith cadwynni cyflenwi a chreu gweithle cynhwysol ac amrywiol.

Ydych chi angen cyngor a chymorth ar fusnes i redeg busnes Newydd? Cysylltwch â ni heddiw.


 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.