BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad Preifatrwydd Llywodraeth Cymru - Arloesi

Nid yr Hysbysiad Preifatrwydd cywir? Chwiliwch am yr un cywir ar Mynegai Hysbysiadau Preifatrwydd Busnes Cymru.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch.

Bydd yr holl ddata personol yn cael ei drin yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 (DPA 2018), gan nad yw GDPR yr UE bellach yn berthnasol i'r DU. 

Mae darpariaethau GDPR yr UE wedi'u hymgorffori yn uniongyrchol yng nghyfraith y DU fel GDPR y DU.

Pam rydym yn casglu ac yn prosesu’ch data personol

Rydym yn casglu eich data i'n galluogi i reoli cynllun Arloesi Llywodraeth Cymru. Mae'r ffyrdd yr ydym yn defnyddio'r data yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol: 

  • Monitro cynnydd, canlyniadau ac effeithiau'r Strategaeth Arloesi
  • Gwerthuso'r Strategaeth Arloesi i lywio penderfyniadau ar bolisïau'r dyfodol
  • Cynhyrchu cyhoeddiadau ystadegol dienw  
  • At ddibenion archwilio
  • Ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo
  • Fel rhan o ganlyniadau cyfanredol i'w defnyddio mewn gwahanol adroddiadau
     

Pwy fydd yn cael gweld eich data personol?

Mae'n bosibl y bydd angen inni ddatgelu eich gwybodaeth i drydydd parti os oes angen eu mewnbwn i ddarparu gwasanaeth arloesi wedi'i gydlynu. Mae hyn yn anochel lle mae'r ymholiad, er enghraifft, yn ymwneud â gwasanaethau a ddarperir gan un o'n cyrff cyflenwi partner. Os nad ydych am i wybodaeth sy'n eich adnabod gael ei datgelu, byddwn yn ceisio parchu hynny. Fodd bynnag, efallai na fydd yn bosibl darparu ein cefnogaeth i chi yn ddienw.

Mewn rhai achosion, mae angen i Lywodraeth Cymru gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy yn ystod ein gwasanaeth i chi. Os oes angen data personol ychwanegol yna gofynnir i chi ddarparu hyn. Os nad ydych am ddarparu'r wybodaeth a geisiwyd, byddwn yn ceisio parchu hynny. Fodd bynnag, efallai na fydd yn bosibl datblygu eich anghenion os na fyddwch yn darparu'r wybodaeth. Gallai hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, wiriadau i gadarnhau pwy ydych chi neu, yn achos ceisiadau am gyllid, twyll a gwiriadau gonestrwydd ariannol eraill.
 

Cyfreithlondeb

Mae gwaith y tîm arloesi yn cael ei wneud fel rhan o gylch gwaith datblygu economaidd cyhoeddus Llywodraeth Cymru i greu swyddi, twf a chyfoeth yng Nghymru.

Dim ond â’ch caniatâd chi y gwneir unrhyw waith ymchwil neu werthuso.  Os cysylltir â chi i gymryd rhan mewn unrhyw waith ymchwil neu werthuso am eich profiad o'n gwasanaeth, eglurir y diben ichi a chewch yr opsiwn i gytuno i gymryd rhan neu i wrthod. Dim ond ar gyfer y diben a nodir y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio a byddan nhw’n cael eu dileu pan fydd yr ymchwil gymeradwy hon wedi’i chwblhau.

Dim ond ar ôl cael eich caniatâd chi y gwneir unrhyw weithgarwch hyrwyddo. Mae gennych yr hawl i wrthod cymryd rhan mewn gweithgarwch hyrwyddo.
 

Am faint fyddwn ni'n cadw'ch manylion

Bydd eich manylion yn cael eu cadw ar ein systemau yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru am hyd at 7 mlynedd fel rhan o'n hadolygiadau rheolaidd o hyfforddiant ac ansawdd.

Bydd eich manylion yn cael eu cadw ar systemau unrhyw gontractwyr nes bod contractau'n cael eu cwblhau. Yna byddant yn cael eu dychwelyd i Lywodraeth Cymru a'u storio yn ein cyfleusterau am 7 mlynedd.
 

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • cael mynediad at y data personol mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw arnoch chi;
  • ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny,
  • (o dan rai amgylchiadau) gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data;
  • (o dan rai amgylchiadau) gofyn inni 'ddileu' eich data;
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Thîm Llywodraeth Cymru – cydweithredu@llyw.cymru

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnydd, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data, gweler y manylion cyswllt isod

Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays                                     
Caerdydd
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost: Swyddog.DiogeluData@llyw.cymru

Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch gwybodaeth chi

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd ofyn i gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gallai aelod arall o'r cyhoedd ofyn am gael gweld yr wybodaeth a roddwch, a hynny fel rhan o gais rhyddid gwybodaeth. Byddem yn trafod â chi i ofyn eich barn cyn datgelu unrhyw ddata personol mewn ymateb i gais o’r fath. 

Newidiadau i'r polisi hwn

Caiff Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. 

Gellir dod o hyd i'r cyd-destun ehangach ar gyfer yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn hysbysiad preifatrwydd cyffredinol Llywodraeth Cymru 
 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.