BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad Preifatrwydd - Ffurflen gofrestru Fy Musnes Cymru

Cafodd yr hysbysiad hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 4 Mai 2018.

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Busnes Cymru ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, rydym wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd sy’n esbonio pam rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y caiff eich data personol eu prosesu’n deg ac yn gyfreithlon, ac mewn ffordd dryloyw.

Cymerwch funud i ymgyfarwyddo â’n harferion preifatrwydd.

  1. Pam rydym yn casglu ac yn prosesu’r data sy’n cael eu casglu
    Llywodraeth Cymru fydd Rheolydd Data y data personol rydych chi’n eu darparu ar ffurflen gofrestru Fy Musnes Cymru. Pwrpas casglu'r data hyn yw eich galluogi chi i gael gafael ar nodweddion a gwybodaeth nad ydynt ar gael ar y rhyngwyneb cyhoeddus.
  2. Pwy fydd yn gallu gweld eich data:  
    Bydd gweinyddwyr technegol y system, sy’n cefnogi’r system TG, yn gallu gweld yr wybodaeth a chesglir.  Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.   
  3. Am ba mor hir caiff eich manylion eu cadw
    Caiff eu manylion eu cadw ar gronfa ddata Fy Musnes Cymru nes eich bod yn gofyn i ni eu tynnu ac yn penderfynu nad oes angen mynediad at y nodweddion a’r wybodaeth arnoch mwyach.
    Bydd y system yn archifo cyfrifon ar ôl 16 mis o fod yn segur. Caiff negeseuon e-bost atgoffa eu hanfon.
    9 mis -> e-bost cyntaf yn atgoffa am gyfrif segur
    15 mis -> ail e-bost yn atgoffa am gyfrif segur
    16 mis -> archifo’r cyfrif; pan fo’r cyfrif yn yr archif, ni fydd eich manylion i’w gweld ar y wefan.
    Caiff y cyfrif ei ddileu ar ôl 2 flynedd.
     
  4. Eich hawliau
    O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl i wneud y canlynol:
  • gweld y data personol mae Llywodraeth Cymru yn eu dal amdanoch chi;
  • mynnu ein bod yn cywiro unrhyw wybodaeth anghywir yn y data hynny;
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data (mewn rhai amgylchiadau);
  • ‘dileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau);
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
  • Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:​


Cyswllt Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Website: www.ico.org.uk
 

I gael cymorth gydag unrhyw o’r hawliau uchod, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru drwy ffonio 03000 6 03000 neu ddefnyddio'r ffurflen cysylltu â ni.

  1. Eich Gwybodaeth chi a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
    O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, gall y cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth sy’n cael ei dal gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddem yn cysylltu â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.
  2. Newidiadau i’r polisi hwn
    Caiff Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Caiff y newidiadau eu cyhoeddi yma a byddant yn dod i rym ar unwaith. Os bydd y polisi hwn yn newid, byddwn yn cysylltu â chi ar y cyfeiriad e-bost sydd wedi’i nodi yn eich cyfrif er mwyn caniatáu i chi adolygu’r fersiwn newydd.

    I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth

    Cyfeiriad post:
    Y Swyddog Diogelu Data
    Llywodraeth Cymru
    Parc Cathays
    CAERDYDD
    CF10 3NQ

    Cyfeiriad e-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.