BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad Preifatrwydd GDPR (Sectorau Busnes Llywodraeth Cymru)


Adran 1 - Y rhesymau dros gasglu'r data personol

Er mwyn ichi gael cymorth busnes gan Lywodraeth Cymru, mae'n rhaid inni ofyn ichi am wybodaeth. Bydd yr wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth bersonol am unigolion sy'n gweithio yn y cwmni a gwybodaeth berthnasol sy'n ymwneud â'r busnes. Caiff yr wybodaeth hon ei chasglu a’i chadw gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'n gwaith fel rheolydd data er mwyn rhoi cymorth busnes parhaus, tynnu sylw at gyfleoedd datblygu busnes a chyfleodd cydweithio a allai fod o fudd i'ch cwmni. Gallai'r cymorth gynnwys:

• Cymorth ariannol a

• Cymorth heblaw am gymorth ariannol, gan gynnwys cymorth ac arweiniad ac efallai eich cyflwyno i unigolion a busnesau eraill. Mae’n bosib y caiff yr wybodaeth ei rhannu ag un neu ragor o’r canlynol:

- Adrannau eraill Llywodraeth Cymru, ee Busnes a Rhanbarthau, Masnachu a Buddsoddi, Addysg a Sgiliau, Arloesi Llywodraeth Cymru etc
- Darparwyr allanol sy'n cyflawni gwasanaethau cymorth busnes sydd wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, ee  Busnes Cymru, Dyfodol Adeiladu Cymru;
- Corff allanol, ee  Awdurdodau Lleol, Banc Datblygu Cymru, Prifysgolion, Llywodraeth y DU, gwasanaethau cymorth busnes yng Nghymru / y DU nad ydynt yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, fforymau diwydiant sy'n benodol i'r sector
- Cyrff masnach a diwydiant ee Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu a ffederasiynau perthnasol yn y diwydiant.
- Busnesau eraill a rhanddeiliaid perthnasol er mwyn hwyluso cyfleoedd o fewn y gadwyn gyflenwi a datblygu busnes.

Bydd yr wybodaeth a gesglir hefyd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gyllido, cynllunio a monitro ei gweithgareddau cymorth i fusnesau.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cynnwys:
Enwau a theitlau swyddi unigolion, cyfeiriad busnes, manylion cyswllt (gan gynnwys rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost) a gwybodaeth am eich busnes, gan gynnwys maint eich busnes (trosiant a'r nifer a gyflogir) a gwybodaeth ariannol am eich cwmni fel rhan o'n prosesau diwydrwydd dyladwy (ee. gwiriadau credyd a gwybodaeth Tŷ'r Cwmnïau). Bydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddosbarthiad eich busnes (codau SIC/NACE) a'r math o fusnes. Gallai hefyd gynnwys data sy'n sensitif yn fasnachol a gwybodaeth megis cynlluniau busnes, gwybodaeth ariannol neu eiddo deallusol.

Adran 2 – Y sail gyfreithiol dros brosesu'r data personol

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'ch gwybodaeth i ddarparu cymorth busnes parhaus a chyfleoedd datblygu busnes a allai fod o fudd i'ch cwmni. Byddwn yn gwneud hyn er mwyn cyflawni ein dyletswydd gyhoeddus yn unol ag is-baragraff 1(a), Adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
 
Adran 3 – Rhannu’r data

Byddwn yn ymgynghori ag adrannau eraill Llywodraeth Cymru ynghyd ag amrywiaeth o arbenigwyr allanol (Awdurdodau Lleol Cymru – Prifysgolion – Llywodraeth Cymru – Gwasanaethau Cymorth Busnes etc.) er mwyn creu pecyn cymorth cynhwysfawr sydd wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer eich anghenion busnes chi. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod ichi cyn inni rannu naill ai eich gwybodaeth bersonol neu wybodaeth sy'n sensitif yn fasnachol gydag unrhyw bartïon allanol ac yn rhoi amlinelliad ichi o'r wybodaeth a gaiff ei rhannu.

Adran 4 – Cadw dogfennau

Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei storio’n ddiogel a'i defnyddio yn unol â'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.  Wrth rannu unrhyw wybodaeth y mae’n ofynnol ei rhannu, byddwn yn cydymffurfio â pholisi rhannu gwybodaeth Llywodraeth Cymru.
Bydd eich manylion yn cael eu cadw gan Lywodraeth Cymru am 3 blynedd yn unol â Pholisi Cadw a Rheoli Cofnodion Llywodraeth Cymru ' I Hyrwyddo cyfleoedd datblygu economaidd parhau’.

 

Eich Hawliau 
Mae gennych yr hawliau a ganlyn:
• Yr hawl i weld y data personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch;
• Ei gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hynny;
• Yr hawl (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu;
• Yr hawl (o dan amgylchiadau penodol) i fynnu bod eich data yn cael eu dileu;
• Yr hawl i gofnodi cwyn yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Ymholiadau Cyffredinol: 
Ffôn: 03000 6 03000
businesssupport@llyw.cymru

Cysylltu â Llywodraeth Cymru 
Cyfeiriad e-bost y Swyddog Diogelu Data (DataProtectionOfficer@llyw.cymru )

 

Cwynion
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
2il Lawr
Churchill House
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Ffôn: 029 2067 8400
Ffacs  - 029 2067 8399
E-bost: wales@ico.org.uk

 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.