BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Y Gronfa Cadernid Economaidd a  Chynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru: Arolwg Gwerthuso

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Opinion Research Services a Wavehill i gynnal arolwg o fusnesau sydd wedi derbyn grantiau’r Gronfa Cadernid Economaidd (ERF) a chymorth gan Gynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru (CWBLS). Diben yr arolwg yw asesu effeithiau’r arian ar y busnesau dan sylw ac i weld i ba raddau mae amcanion craidd yr ERF, sef helpu busnesau i oroesi, diogelu swyddi a helpu busnesau i ddatblygu, wedi’u bodloni, ac i ba raddau y mae’r effeithiau’n ganlyniad y grantiau neu’r benthyciadau hyn.  Bydd yr arolygon yn edrych hefyd a fu effeithiau eraill na chawsant eu rhagweld. Fel rhan o’r gwerthusiad hwn, bydd Opinion Research Services a Wavehill yn casglu gwybodaeth ar-lein a thrwy holi busnesau dros y ffôn. 

Llywodraeth Cymru yw rheolydd y data ar gyfer yr ymchwil. Ond bydd Opinion Research Services / Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol a gesglir trwy’r arolwg ac yn ei gwneud yn amhosibl adnabod pobl a busnesau yn y data amrwd cyn eu rhannu â Llywodraeth Cymru. 

Bydd y data di-enw’n cael eu rhannu hefyd â Banc Datblygu Cymru sy’n gweinyddu benthyciadau CWBLS ac â Phrifysgol Caerdydd, sy’n rhan o Dirnad Economi Cymru , er mwyn dadansoddi canlyniadau di-enw’r arolwg ac i baratoi adroddiad. 

Caiff yr wybodaeth a gesglir yn yr arolwg ei chrynhoi mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Dirnad Economi Cymru. 

Mater cwbl wirfoddol yw cymryd rhan yn yr ymchwil hon.  Ond mae’ch barn a’ch profiadau’n bwysig er mwyn helpu i fwydo polisïau Llywodraeth Cymru. 

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn Opinion Research Services yw Kester Holmes.  E-bost: ERF@ors.org.uk 
Ffôn: 0800 107 7890

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD 
Pa ddata personol ydym ni’n eu cadw ac o ble daw’r wybodaeth hon? 

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar gyfer Diogelu Data (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at y data hynny’.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhyddhau'r data a roddir pan wneir cais am grant ERF i ORS a Wavehill er mwyn iddynt gysylltu â chi a lle bo'n briodol i allu llenwi'r holiadur ymlaen llaw. Nodwyd y defnydd o fanylion at ddibenion ymchwil yn yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y grant. Mae Llywodraeth Cymru’n cadw'r data personol canlynol a fydd yn cael eu trosglwyddo i ORS a Wavehill:

  • Enw perchennog y busnes
  • Manylion cyswllt (ffôn a chyfeiriad e-bost)
  • Rhywedd 
  • Ethnigrwydd 

Yn ogystal, bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi i ORS a Wavehill swm y grant/benthyciad y gwnaed cais amdano a swm y grant/benthyciad a ddyfarnwyd. 

Mae Banc Datblygu Cymru wedi anfon Hysbysiad Preifatrwydd wedi'i ddiweddaru at fusnesau sydd wedi cael benthyciad CWBLS i ofyn a fyddai'n well ganddynt beidio â chymryd rhan yn yr arolwg. Bydd yr holl ddata am fusnesau fydd heb ddewis peidio â chymryd rhan yn cael eu trosglwyddo'n ddiogel i ORS a Wavehill. Mae Banc Datblygu Cymru’n cadw’r data personol canlynol a fydd yn cael eu trosglwyddo i ORS a Wavehill er mwyn iddynt allu cysylltu â chi a lle bo’n briodol llenwi’r holiadur ymlaen llaw:

  • Enw perchennog y busnes
  • Manylion cyswllt (ffôn a chyfeiriad e-bost)

Ar gyfer pob cyswllt sydd wedi'i ddarparu bydd ORS a Wavehill yn cysylltu â chi i gymryd rhan mewn arolwg, naill ai dros y ffôn neu ar-lein. Mater gwirfoddol yw cymryd rhan. Os nad ydych am gymryd rhan nac am gael nodiadau atgoffa, atebwch yr e-bost gwahodd a chaiff eich manylion eu dileu. Bydd Opinion Research Services a Wavehill ond yn defnyddio’ch cyfeiriad e-bost a rhif ffôn at ddibenion yr ymchwil hon.

Lle nad yw eisoes wedi'i ddarparu i ORS a Wavehill, bydd yr arolwg yn casglu'r data personol canlynol:

  • Rhywedd
  • Ethnigrwydd
  • Anabledd
  • Oedran

Os byddwch yn dewis rhoi data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil byddwn yn ceisio sicrhau na fydd modd eich adnabod trwy’ch ymatebion. Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol wrth ofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yna'n ei ddileu o'r data ymchwil.

Pan gynhelir arolwg dros y ffôn bydd y gweithredwr yn cofnodi'r ymatebion a roddwch a byddwn am recordio’r sgwrs am resymau gweithredol. Byddwn yn gwneud hyn yn glir i chi cyn i'r arolwg ddechrau, a byddwch yn cael cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon i'r drafodaeth gael ei recordio. Os caiff yr arolwg ei recordio, caiff data personol eu dileu yn ystod y broses o drawsgrifio. Bydd recordiadau'n cael eu dileu 3 mis ar ôl dyddiad yr arolwg.

Beth yw’r sail cyfreithiol dros ddefnyddio’ch data? 
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Gelwir rhywfaint o'r data rydym yn eu casglu yn 'ddata categori arbennig' (yn yr achos hwn eich ethnigrwydd a’ch statws anabledd) a’r sail gyfreithlon dros brosesu'r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil. 

Mater gwirfoddol yw cymryd rhan. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth berthnasol am ei gallu i gyflawni’i blaenoriaethau. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i:

  • Gynllunio’r cymorth a roddir i fusnesau yn y dyfodol 
  • Deall effaith yr arian ar fusnesau yng Nghymru
  • Sicrhau bod prosesau rowndiau dyrannu cyllid a benthyciadau yn y dyfodol yn defnyddio adborth cyn-ymgeiswyr..

Pa mor ddiogel yw’ch data personol?
Mae’r wybodaeth bersonol a ddarperir i ORS a Wavehill bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy’n cael gweld y data. Bydd ORS a Wavehill ond yn defnyddio'r data at ddibenion ymchwil. Mae ORS a Wavehill ill dau yn meddu ar Dystysgrif Hanfodion Seiber.  

Mae gan Wavehill a ORS drefniadau i ddelio ag unrhyw achosion tybiedig o dorri rheolau diogelu data. Os bydd amheuaeth bod y rheolau wedi’u torri, bydd ORS a Wavehill yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol os oes gofyn cyfreithiol i ni wneud hynny. 

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hon yn cael eu cyflwyno mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth y bydd modd eich adnabod chi drwyddi mewn atebion penagored yn cael ei dileu. Ni fydd eich busnes yn cael ei enwi yn y set ddata ddienw hon. Bydd ORS a Wavehill yn dadansoddi'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu canlyniadau pennawd a data dienw. Bydd y set ddata ddienw hon wedyn yn cael ei throsglwyddo'n ddiogel i Lywodraeth Cymru, Banc Datblygu Cymru a Phrifysgol Caerdydd (rhan o Dirnad Economi Cymru) a fydd yn dadansoddi'r canlyniadau ac yn cynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Dirnad Economi Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol. 

Am faint y byddwn yn cadw’ch data personol? 
Bydd ORS a Wavehill yn cadw data personol dros gyfnod y contract (Mawrth 2021 – Medi 2022), a bydd ORS a Wavehill yn dileu unrhyw ddata personol dri mis ar ôl diwedd y contract. Bydd hynny’n cynnwys eich manylion cyswllt.

Hawliau unigolion 
O dan UK GDPR, bydd gennych yr hawliau canlynol o ran yr wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu fel rhan o’r ymchwil hon. Bydd gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swydda’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk

Rhagor o wybodaeth 
Os oes gennych gwestiynau ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r wybodaeth a ddarperir fel rhan o’r astudiaeth hon neu sut i arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar gyfer Diogelu Data, cysylltwch â: 

Enw: Cerris Dearsley-Hopkins
Cyfeiriad e-bost: cerris.dearsley-hopkins@llyw.cymru    
Rhif Ffôn: 03000 615864

Dyma fanylion Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru: 
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, Ebost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru. 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.