Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru yn dathlu 10 mlynedd ers iddi ddod yn ofyniad cyfreithiol i arddangos sgoriau hylendid bwyd yng Nghymru ac arwain y ffordd fel y wlad gyntaf yn y DU i’w gwneud yn ofyniad cyfreithiol i arddangos sgoriau hylendid bwyd. Ers mis Tachwedd 2013, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau yng Nghymru arddangos eu sticer sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg – er enghraifft, ar y drws blaen, wrth y fynedfa neu mewn ffenestr.
Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wedi sicrhau buddion parhaol i ddefnyddwyr ac i fusnesau fel ei gilydd. Yn wir, mae’r Cynllun yn cael ei ddathlu fel un o gyflawniadau mwyaf arwyddocaol y wlad yn yr 21ain ganrif o ran iechyd cyhoeddus.
Ddegawd yn ddiweddarach, mae’r Cynllun wedi codi safonau hylendid mewn busnesau bwyd yng Nghymru, gyda dros 96% o fusnesau’n arddangos sgôr o 3 neu uwch a 71% o fusnesau’n cyflawni’r sgôr uchaf o 5. Mae ymchwil yn dangos bod busnesau sydd â sgôr uwch yn llai tebygol o fod yn gyfrifol am achosion o salwch a gludir gan fwyd.
Mae’r Cynllun yn galluogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch ble i brynu a bwyta bwyd bob dydd. Mae arddangos y sgoriau yn cynnig manteision eraill hefyd, ac yn annog busnesau bwyd i wella eu safonau hylendid. Mae pob busnes bwyd yn gallu cyflawni’r sgôr uchaf o ‘5 – da iawn’ drwy gyflawni gofynion cyfraith hylendid bwyd. Cofiwch! Mae sgôr hylendid da yn gadarnhaol i fusnesau – gan gynnig mantais gystadleuol i’r rhai sydd â’r sgôr hylendid uchaf.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)