BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

20mya: Yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn disgrifio cynllun ar gyfer targedu newid

20mph sign

Bydd Llywodraeth Cymru'n gwrando ar bobl Cymru ac yn gweithio gyda chynghorau i dargedu newidiadau i'r terfyn cyflymder 20mya, meddai Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates.

Mewn araith yn y Senedd yn esbonio ei flaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth, addawodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai llais pobl Cymru yn ganolog i bob penderfyniad ar drafnidiaeth gan ddatgelu cynllun tri cham ar gyfer y terfyn 20mya.

Ynghyd â rhaglen i wrando ar y wlad, bydd Llywodraeth Cymru'n cydweithio ag awdurdodau lleol i baratoi'r tir ar gyfer newid y canllawiau ar ba ffyrdd lleol allai gael eu heithrio rhag y terfyn 20mya. Caiff y canllaw newydd ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf, a bydd disgwyl i Gynghorau ddechrau ymgynghori ar y newidiadau ym mis Medi.

Mae hwn yn rhan o gynllun tri cham, sy'n cynnwys:

  • Rhaglen o wrando go iawn ar y bobl.
  • Gweithio mewn partneriaeth â chyrff allweddol i barato'r tir ar gyfer newid.
  • Rhoi'r newidiadau angenrheidiol ar waith ar lawr gwlad.

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.