BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

27 o goetiroedd yn ymuno â Choedwig Genedlaethol Cymru

Forest in Wales

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd 27 o safleoedd coetir yn ymuno â rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd 15 ohonynt y cyntaf i ymuno â'r rhwydwaith ers i'r Cynllun Statws Coedwig Cenedlaethol gael ei lansio ym mis Mehefin, sydd wedi galluogi ystod ehangach o goetiroedd i ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol. Gallai'r rhain fod yn goetiroedd trefol neu gymunedol bach, tir preifat neu ffermydd, neu ardaloedd mawr o dir sy'n eiddo i awdurdodau lleol, elusennau neu goetir sy'n cynhyrchu pren.

Mae'r 15 safle i gyd bron yn 800 hectar, sy'n amrywio o ran maint o Ardd Furiog Erlas yn Wrecsam i goetiroedd mwy, fel Coed Gwent yn y De-ddwyrain.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cynnig 12 ardal o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru a fydd yn ymuno â'r rhwydwaith, gan ychwanegu bron i 24,000 hectar. Mae'r rhain yn ymuno â'r 14 safle sydd eisoes yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddoleni ganlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.