Mae'n bwysig sicrhau bod eich gweithle’n gynhwysol o ran pobl fyddar a phobl trwm eu clyw.
Os nad ydych chi, rydych chi'n eithrio nifer fawr o bobl: er enghraifft, mae gan 1 o bob 5 person o oedran gweithio golled clyw a all effeithio ar eu cyfathrebu, eu cynhyrchiant a’u lles.
Mae'r RNID (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar) yn elusen annibynnol sy'n cefnogi'r 12 miliwn o bobl yn y DU sy'n fyddar neu sydd â cholled clyw neu dinitws.
Gallant helpu gyda:
- Gwiriadau clyw ar-lein
- Cefnogi staff byddar a staff â cholled clyw
- Cyfathrebu
- Hyfforddiant
- Asesiadau yn y gweithle
- Recriwtio hygyrch
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Support for businesses and organisations - RNID
Y Canllaw Arferion Da – Cefnogi Entrepreneuriaid Anabl yng Nghymru
Datblygwyd y canllaw hwn gan Anabledd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol i sefydliadau a chynghorwyr cymorth busnes am y ffordd orau o ymgysylltu â phobl anabl sy'n dechrau, cynnal neu dyfu eu busnes yng Nghymru a'u cefnogi. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Y Canllaw Arferion Da - Cefnogi Entrepreneuriaid Anabl yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales)