BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Academi Dechrau Busnes Technoleg Tramshed

Mae'r Academi Dechrau Busnes yn rhaglen deori 10 wythnos am ddim ar gyfer sylfaenwyr technoleg ar gamau cyn dechrau a chamau cynnar i'w helpu i roi eu syniadau dechrau busnes ar waith.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi drwy fentoriaeth, cynnwys ar-alw a deunyddiau dysgu annibynnol drwy borth yr Academi Dechrau Busnes yn ogystal â sesiynau cyfoedion wythnosol. Bydd y rhaglen yn dod i ben gyda Diwrnod Arddangos - cyfle i'r garfan ddangos eu technoleg ac arddangos eu sgiliau.

Bydd cofrestru'n cau ar 7 Ebrill 2023 a bydd y rhaglen yn dechrau ar 21 Ebrill 2023. 

I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol Startup Academy (tramshedtech.co.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.