BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Acas – cyngor i gyflogwyr am ddiswyddo staff

Mae Acas wedi cyhoeddi cyngor i gyflogwyr sy'n ystyried diswyddo staff oherwydd yr anawsterau ariannol y gallai'r busnes fod yn eu hwynebu oherwydd coronafeirws.

Y cyngor allweddol yw y dylai cyflogwyr yn ymgynghori’n iawn â’u staff i ofyn am farn ar atebion, a allai gynnwys rhewi’r broses recriwtio neu gyfyngiadau goramser.

Y dewis olaf ddylai diswyddo fod bob amser, pan na fydd unrhyw ateb arall ar ôl.

Os nad oes gan gyflogwr unrhyw ddewis yna mae yna reolau llym ynghylch ymgynghori â gweithwyr yr effeithir arnynt, bydd y cyfnod ymgynghori lleiaf yn amrywio yn dibynnu ar nifer y gweithwyr y mae cyflogwr yn dymuno eu diswyddo.

Mae angen i gyflogwyr sydd am ddiswyddo 20 neu fwy o staff ymgynghori ag undeb llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr etholedig gweithwyr ynghylch y newidiadau arfaethedig.

Am ragor o gyngor a gwybodaeth ewch i wefan Acas.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.