Mae Acas wedi cyhoeddi cyngor newydd i helpu cyflogwyr ystyried a allai gweithio hybrid fod yn opsiwn ar gyfer eu gweithle a sut i’w gyflwyno’n deg.
Math o weithio’n hyblyg yw gweithio hybrid, lle mae staff yn rhannu eu hamser rhwng gweithio o bell a gweithio yng ngweithle eu cyflogwr.
Mae’r cyngor yn cynnwys awgrymiadau i gyflogwyr ar sut i:
- ymgynghori’n eang gyda staff i drafod ystyriaethau ymarferol cyflwyno’r drefn hon
- ystyried a fyddai’n gweithio mewn swyddi penodol ac a yw’n addas ar gyfer eu sefydliad
- creu polisi gweithio hybrid
- ymdrin â cheisiadau gweithio hybrid gan staff.