
Mae tri banc ar y stryd fawr wedi cael cydnabyddiaeth arbennig fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i ddiogelu taliadau i fusnesau bach a chanolig ar brosiectau adeiladu mawr y sector cyhoeddus.
Mae Barclays, NatWest a Lloyds i gyd wedi cael eu datgan yn Ddarparwyr Gwasanaeth Enwebedig, ar ôl bodloni meini prawf newydd ar gyfer menter Cyfrifon Banc Prosiectau (PBA).
Maent wedi'u clustnodi yn gyfrifon banc sy'n sicrhau bod busnesau adeiladu cadwyni cyflenwi sy'n rhan o gynlluniau'r sector cyhoeddus yn cael taliad mewn pum niwrnod neu lai.
Mae hyn yn helpu i hwyluso llif arian pan fydd terfynau amser talu traddodiadol ar gyfer isgontractwyr nad ydynt yn defnyddio PBA yn gallu bod hyd at 90 diwrnod. Mae PBA hefyd yn diogelu taliadau yn erbyn ansolfedd.
Gall busnesau bach a chanolig sy'n defnyddio'r tri banc achrededig fod yn hyderus y byddant yn cael lefel uchel o gefnogaeth wrth sefydlu PBA.
Mae'r Cyfrifon hyn yn amod cyllid pob prosiect adeiladu o fewn cwmpas Llywodraeth Cymru a chânt eu hannog fel arfer gorau ar gyfer y sector cyhoeddus ehangach.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Achredu banciau fel rhan o gynllun i ddiogelu taliadau adeiladu busnesau bach a chanolig | LLYW.CYMRU