Mae CThEM yn datblygu system ar gyfer gwiriadau treth a fydd yn berthnasol wrth adnewyddu trwyddedau gyrwyr tacsi a safleoedd metel sgrap, i enwi dim ond rhai, yng Nghymru a Lloegr. Bydd y gwiriad yn cael ei integreiddio i’r cais am drwydded ac ni fydd asiantau yn gallu ei gwblhau ar ran cleientiaid.
O fis Ebrill 2022, wrth adnewyddu trwyddedau penodol yn y sectorau trafnidiaeth a metel sgrap, bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd gwblhau gwiriad treth gyda CThEM. Wrth adnewyddu eu trwyddedu, bydd angen i ymgeiswyr gwblhau gwiriad ar-lein sylfaenol i gadarnhau eu bod wedi’u cofrestru ar gyfer treth os yw hynny’n ofynnol iddynt.
Gelwir y gofyniad yn “amodoldeb treth” (tax conditionality) ac roedd yn destun ymgynghoriad ar y polisi a'r ddeddfwriaeth.
Bydd y gwiriad newydd yn berthnasol i’r trwyddedau canlynol:
- trwyddedau gyrwyr tacsi;
- trwyddedau gyrwyr cerbydau hurio preifat;
- trwyddedau gweithredwyr PHV;
- trwyddedau casglwyr symudol ar gyfer gwerthwyr metel sgrap; a
- thrwyddedau safle ar gyfer gwerthwyr metel sgrap
Bydd y gwiriadau newydd yn cael eu cynnwys ar adnewyddiadau trwyddedau yng Nghymru a Lloegr yn unig, ond disgwylir i’r rheolau gael eu hehangu i’r Alban a Gogledd Iwerddon o fis Ebrill 2023.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Some transport licence renewals to include a tax check | ICAEW