Mae’n bleser gan Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei bod yn lansio modiwl e-Ddysgu newydd ar Adeiladu Cyfoeth Cymunedol a’r Economi Sylfaenol.
Nod yr adnodd ar-lein deniadol hwn yw helpu pobl i ddeall beth yw’r Economi Sylfaenol; y manteision y gall eu cynnig; a sut mae mynd ati i’w chryfhau.
Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg yn esbonio:
“Mae’r modiwl e-Ddysgu ar-lein hwn yn offeryn ardderchog i ddeall dulliau gweithio ar sail lle yn well a sut mae Adeiladu Cyfoeth Cymunedol. Maen nhw’n gallu cefnogi a meithrin yr Economi Sylfaenol, sy’n ganolog i’n Cenhadaeth Economaidd. Rydyn ni i gyd yn rhyngweithio â’r Economi Sylfaenol (ES) bob dydd, o’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta, yr adeiladau rydyn ni’n byw ac yn gweithio ynddyn nhw, a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu defnyddio. Mae’n rhan annatod o’n cymunedau a’n gwlad, ac yn gyfwerth â rhyw 40% o’r economi.
Mae’n hanfodol ein bod yn meithrin y galluoedd a’r sgiliau sydd eu hangen i ymgorffori amcanion ES ym mhob rhan o sector cyhoeddus Cymru. Drwy wneud hyn, gallwn gynyddu’r cyfleoedd i’n cyflenwyr brodorol a datblygu cadwyni cyflenwi gwydn gyda’r sgiliau gorau – gan gadw’r bunt Gymreig yn ein cymunedau.
I wneud hyn, rydym yn cydnabod bod angen darparu’r cymorth a’r cyfryngau sydd eu hangen ar ein partneriaid yn y sector cyhoeddus.
Rwy’n falch o gael gweld lansio’r modiwl e-Ddysgu hwn a gobeithio y caiff ei ddefnyddio’n helaeth i gryfhau dealltwriaeth, ymrwymiad a gwybodaeth i helpu ein sectorau sylfaenol i ffynnu.”
Mae’r modiwl hwn yn addas ar gyfer pawb – pobl sydd â diddordeb yn y pwnc neu bobl sy’n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol i ddilyn y modiwl hwn ac mae’n addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Adnodd Dysgu newydd ar-lein ar yr Economi Sylfaenol – Cynnal Cymru – Sustain Wales