Beth yw CyberAlarm yr Heddlu?
Mae CyberAlarm yr Heddlu yn adnodd am ddim i helpu’ch busnes i ddeall a monitro gweithgarwch seiber maleisus. Mae’n gweithredu fel “Camera CCTV” sy’n monitro traffig a welir gan gysylltiad eich busnes â’r rhyngrwyd. Bydd yn canfod a darparu adroddiadau rheolaidd am weithgarwch maleisus amheus, gan leihau pa mor agored yw’ch busnes i niwed.
Ar ôl i chi ddod yn aelod o CyberAlarm yr Heddlu, byddwch yn gosod ‘Gweinydd Rhithwir CyberAlarm’ ar eich system, a fydd yn cael ei ddefnyddio i gasglu a phrosesu cofnodion traffig sy’n nodi gweithgarwch amheus o’ch wal dân/porth rhyngrwyd.
Beth yw’r manteision i fy musnes?
- adroddiadau rheolaidd
- nodi mannau bregus eich busnes
- gwybodaeth a deallusrwydd busnes
- helpu’r heddlu i’ch helpu chi
Os ydych chi am fod yn rhan o CyberAlarm yr Heddlu neu am gael rhagor o wybodaeth am dderbyn diweddariadau ac adroddiadau diogelwch rheolaidd er mwyn eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r bygythiadau seiber presennol, cofrestrwch yn https://cyberalarm.police.uk/