BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adnoddau ar-lein newydd i helpu i atal, lleihau a rheoli straen yn y gweithle

Oni bai bod 6 ffactor allweddol yn y gweithle yn cael eu rheoli’n briodol, gallent fod yn gysylltiedig ag iechyd gwael, cynhyrchiant is a chyfraddau damweiniau ac absenoldeb salwch uchel.

Dyma’r ffactorau:

  • gofynion
  • rheolaeth
  • cefnogaeth
  • perthynas
  • rôl 
  • newid

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi lansio adnodd dangos straen newydd i fesur agweddau a chanfyddiadau pobl yn ymwneud â straen yn y gweithle. Mae ar gael am ddim i’w ddefnyddio ar gyfer hyd at 50 o weithwyr cyflogedig ac mae’n gallu helpu perchnogion busnes i fod â dealltwriaeth dda o straen yn y gweithle a dysgu sut i atal, lleihau a rheoli straen.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i adran straen gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.