BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adnoddau Cyllid a Thollau EM ar gyfer masnachwyr

Os yw eich busnes yn masnachu nwyddau gydag Ewrop neu os ydych chi'n cynrychioli busnesau sy'n gwneud hynny, bydd angen i chi fod yn barod am newidiadau o 1 Ionawr 2021. 
 
Ni fydd rheolau masnachu yn newid nac yn diflannu, ac mae angen cymryd camau i baratoi, cyn y gallwch fasnachu o 1 Ionawr 2021.
 
Os ydych yn newydd i brosesau tollau gallwch ddechrau cynefino â nhw drwy fwrw golwg ar y fideos ar fewnforio ac allforio ar sianel YouTube CThEM.
 
Mae CThEM hefyd wedi cynhyrchu rhestr wirio ar gyfer masnachwyr i'ch helpu chi i baratoi.
 
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK
 
Beth am ymweld â Phorth Cyfnod Pontio’r UE Busnes Cymru sy’n cynnwys cyngor a gwybodaeth bwysig ar gyfer busnesau sy'n paratoi ar gyfer pontio Ewropeaidd.  

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.