BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adolygiad Busnes Oed-gynhwysol

Missing media item.

 

Rydyn ni i gyd yn byw yn hirach, sy'n golygu bod y mwyafrif ohonom yn debygol o fod yn gweithio am gyfnod hirach hefyd. Yng Nghymru, mae traean o'r gweithlu yn 50 oed neu'n hŷn, ac erbyn 2023, bydd hanner oedolion y DU dros 50 oed.

Mae’ch cwsmeriaid a'ch gweithlu'n heneiddio. Felly, mae recriwtio, cadw staff ac ailhyfforddi unigolion hŷn yn y gweithle yn hanfodol i fusnesau a'r economi ehangach. Mae angen i fusnesau weithredu nawr i atal staff rhag adael y gweithle yn gynnar, cefnogi staff i weithio’n hirach a gwneud y gorau o’r manteision a ddaw yn y gweithleoedd drwy bontio'r cenedlaethau.

Mae’r Adolygiad Busnes Oed-gynhwysol (Age-Inclusive Business Review), Busnes yn y Gymuned (BITC) yn adnodd hunan-asesu rhad ac am ddim, ar-lein i helpu i nodi bylchau ac amlygu cryfderau mewn perthynas â bod yn gyflogwr oedran-gynhwysol ac oedran-gyfeillgar.

Bydd yn cymryd tua 25 munud i'w gwblhau, a byddwch yn derbyn argymhellion cynhwysiant oedran pwrpasol ar gyfer eich sefydliad.

Mae’r cwestiynau ar argymhellion cysylltiedig yn dilyn pedair thema allweddol: Lles Ariannol, Iechyd a Lles, Cydbwysedd Bywyd a Gwaith ac Arferion Yn y Gweithle (h.y. recriwtio, cadw staff, ymddeol, hyfforddiant).

Drwy ddatblygu cynllun gweithredu effeithiol sy'n gynhwysol o ran oedran, gall eich busnes a'i weithlu elwa o gydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith, ymgysylltu gwell â staff a gweithwyr mwy bodlon a chynhyrchiol.

Mae Busnes yn y Gymuned Cymru mewn partneriaeth ag Age Cymru yn darparu’r Rhaglen Age at Work, gan gefnogi busnesau i greu gweithleoedd lle gall gweithwyr hŷn ffynnu.

I gofrestru ar gyfer gweithdai ar-lein rhad ac am ddim y Rhwydwaith Dysgu Oed-gynhwysol, ewch i’r ddolen ganlynol Age-Inclusive Learning Network - online workshops for employers in Wales Tickets, Thu 20 Apr 2023 at 10:00 | Eventbrite
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.